Newyddion S4C

Haf bach Mihangel ar y gweill i Gymru yn wythnos gyntaf Medi

02/09/2023
Tymheredd uchel

Mae darogan y gall ardaloedd ledled Cymru brofi cyfnod o wres cynnes iawn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Medi. 

Y disgwyl yw mai'r de-ddwyrain fydd yn profi’r tymheredd uchaf, a hynny dros gyfnod o dri diwrnod o leiaf, meddai’r Swyddfa Dywydd. 

Yng Nghaerdydd a Sir Fynwy fe all y tymheredd gyrraedd 26C. 

Bydd gweddill y wlad hefyd yn profi cyfnod o wres cynnes gydag uchafbwyntiau o 25C. 

‘Cyfnodau braf a phoeth’

Dywedodd Chris Bulmer, Dirprwy Brif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd: “Gyda gwasgedd uchel yn dod yn sefydlog o’r penwythnos yma ymlaen, bydd cyfnodau braf a sefydlog yn datblygu yn ogystal â chynnydd yn y tymheredd ledled y rhan fwyaf o'r DU'r wythnos nesaf. 

“Mai disgwyl i’r tymheredd gyrraedd uchafbwynt o 25C neu’n uwch mewn nifer o ardaloedd dros gyfnod o sawl diwrnod, gan achosi cyfnod o wres eithafol.

“Er y bydd y tymereddau uchaf i’w gweld yn ne a dwyrain Lloegr, mae gan y llefydd yma drothwyon tymheredd uwch o ran datgelu cyfnodau eithafol o wres. 

“Felly, ni fydd rhai llefydd yn cael eu diffinio fel profi cyfnod eithafol o wres, ond mi fydd sawl un ardal yn parhau i brofi cyfnodau braf a thymereddau uwch nag y gwelwyd ers mis Mehefin neu ddechrau Gorffennaf.”

Mae disgwyl i’r tywydd braf barhau trwy gydol yr wythnos, gyda newid i ddod erbyn y penwythnos nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.