Newyddion S4C

Cymeradwyo brechlyn Pfizer i rai rhwng 12 a 15 oed 

04/06/2021
Canolfan Brechu, Bangor [NS4C]
Canolfan Brechu, Bangor

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn Pfizer/BioNTech ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed. 

Fe wnaeth 2000 o bobl ifanc gymryd rhan yn astudiaethau'r MHRA, gyda’r dystiolaeth yn dangos fod y brechlyn yr un mor effeithiol ag yr oedd ar oedolion rhwng 16 a 25. 

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn ar Feddyginiaethau Dynol fod y canlyniadau yn “hynod bositif”. 

Fe fydd y Cydbwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) yn ystyried nesaf a ddylai’r grŵp oedran yma gael eu brechu fel rhan o’r cynllun brechu.  
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.