Pêl-droed: Tottenham Hotspur yn arwyddo Brennan Johnson am ffi o £47.5 miliwn
Mae clwb pêl-droed Tottenham Hotspur wedi arwyddo’r Cymro Brennan Johnson ar ôl cytuno ar ffi o £47.5 miliwn.
Fe gafodd yr ymosodwr dros Gymru ei arwyddo gan Spurs ychydig cyn diwedd diwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, oddeutu 23.00 nos Wener.
Fel rhan o gytundeb a fydd yn para chwe blynedd, mi fydd Johnson yn gwisgo crys rhif 22 ar gyfer ei glwb newydd.
Dyma'r ail ffi uchaf sydd erioed wedi ei dalu am bêl-droediwr o Gymru, tu ôl i'r £85.1 miliwn a dalwyd i Spurs gan Real Madrid am Gareth Bale.
We are delighted to announce the signing of Brennan Johnson! 🤍
— Tottenham Hotspur (@SpursOfficial) September 1, 2023
Let's go, Brennan! 💪
Hon yw gwerthiant mwyaf erioed i’r clwb Nottingam Forest, ac mae ganddyn nhw gymal 10% pe bai i Johnson cael ei werthu gan Tottenham.
Fe deithiodd Johnson i Lundain yn ystod y dydd ar gyfer prawf meddygol cyn iddo arwyddo’r cytundeb i drosglwyddo.
Bydd Johnson yn hwb ymosodol i Spurs wedi i Harry Kane ymuno â Bayern Munich yn gynharach yn yr haf.
Sgoriodd Johnson wyth o goliau i Nottingham Forest yn ystod tymor 2022/23 ac mae eisoes wedi chwarae 19 gwaith dros ei wlad.