Newyddion S4C

Rhybudd y gallai rhagor o ysgolion yn Lloegr gau o achos presenoldeb concrit ansefydlog

01/09/2023
Raac

Fe allai mwy o ysgolion yn Lloegr gael gorchymyn bod angen iddyn nhw gau ystafelloedd dosbarth ar unwaith oherwydd bod concrit wedi’i osod arnyn nhw a allai gwympo’n sydyn, yn ôl gweinidog ysgolion Llywodraeth y DU.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynnal arolwg o ysgolion a cholegau i weld os yw'r concrit yn bresenol mewn sefydliadau addysg yma hefyd.

Nid oes unrhyw achos wedi ei adnabod yng Nghymru hyd yma mewn ysgolion.

Ganol mis Awst fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu bod rhan o Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi gorfod cau ar ôl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda dderbyn rhybudd gan Lywodraeth Cymru am gyflwr planciau to concrit mewn ysbytai.

Ddydd Gwener, dywedodd Gweinidog Ysgolion Llywodraeth y DU, Nick Gibb, fod cwymp trawst a oedd wedi ei ystyried yn ddiogel yn ystod yr haf wedi arwain at ailfeddwl brys a allai adeiladau yn Lloegr gyda math penodol o concrit aros ar agor.

Er nad yw'r nifer wedi'i gadarnhau'n swyddogol yno, y gred yw bod tua 24 o ysgolion yn Lloegr wedi cael gwybod eu bod angen cau'n gyfan gwbl oherwydd presenoldeb concrit aeredig awtoclaf wedi'i atgyfnerthu (Raac), yn ôl asiantaeth newyddion PA.

Ceisiodd yr Adran Addysg yn San Steffan leddfu rhywfaint ar y dicter drwy newid canllawiau i gadarnhau y bydd cost llety dros dro a llety brys yn cael ei dalu gan y Llywodraeth.

104 o ysgolion a cholegau

Mae’r Adran Addysg wedi dweud wrth tua 104 o ysgolion a cholegau i gau adeiladau’n rhannol neu’n llawn yn syth wrth i ddisgyblion baratoi i ddychwelyd ar ôl gwyliau’r haf.

Ond cyfaddefodd Mr Gibb y gallai mwy o ysgolion orfod cau wrth i'r gwaith o gasglu tystiolaeth am bresenoldeb Raac barhau mewn ysgolion.

“Efallai y bydd mwy ar ôl hynny wrth i’r holiaduron hyn barhau i gael eu harolygu ac rydym yn parhau i wneud mwy o waith arolygu,” meddai wrth Newyddion GB.

Ond mynnodd Mr Gibb na ddylai disgyblion a rhieni fod yn bryderus am y risg wrth aros am y canlyniadau.

“Na, ddylen nhw ddim poeni,” meddai.

“Mae hynny’n ddull gofalus iawn, felly gall rhieni fod yn hyderus os nad yw eu hysgol wedi cysylltu â nhw ei bod yn ddiogel anfon plant yn ôl i’r ysgol.”

Mae swyddogion yn credu mai dim ond “nifer fechan” o ysgolion pellach yn Lloegr fydd yn cael gwybod am gau ysgolion yn yr wythnosau nesaf unwaith y bydd y syrfewyr wedi cwblhau eu harolygiadau.

Mynnodd Mr Gibb “ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cyn gynted ag y daeth y dystiolaeth i’r amlwg” wrth i weinidogion wynebu dicter am ddweud wrth ysgolion am y cau ddyddiau’n unig cyn i blant ddechrau tymor yr hydref.

Dywedodd “dros yr haf” eu bod wedi darganfod nifer o achosion lle roedd Raac oedd wedi’i ystyried yn risg isel “mewn gwirionedd wedi troi allan i fod yn anniogel”.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.