Newyddion S4C

Cais i godi bron i 300 o dai yn Abergele

01/09/2023
Cais Abergele

Mae cais wedi ei roi i godi bron i 300 o dai ar dir fferm ger Abergele.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi derbyn cais gan gwmni adeiladu tai Countryside Partnerships, i adeiladu 297 o dai ar safle 23 o erwau ar dir i’r de a gogledd o Ffordd Llan San Siôr.

Mae’r cais hefyd yn cynnwys gwagle agored cyhoeddus, ffyrdd mewnol, mannau parcio, gerddi a thirlunio.

Mae’r safle arfaethedig ar fferm dir sydd eisoes ag adeiladau, fydd yn cael eu cynnwys o fewn gosodiad y cynllun.

Mi fyddai’r tai yn gymysgedd o dai ar y farchnad agored, tai fforddiadwy, a thai rhentu preifat.

Mewn datganiad dylunio a mynediad, mae’r datblygwyr yn dweud eu bod yn gweithio er mwyn “datblygu llefydd sydd yn gynaliadwy, o safbwynt economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.”

Ychwanegwyd: “Mae cymeriad thirwedd Ffordd Llan San Siôr yn cynnwys fferm dir sylweddol a bryniau coediog. Mi fydd terfynau caeau hanesyddol o fewn y safle mewn ffurf gwrychoedd aeddfed yn cael eu cadw a’u gwella lle bo hynny’n bosib.”

Yn ôl datganiad effaith cymunedol ac ieithyddol y cais, mi fyddai’r datblygiad yn cyfrannu tuag at yr angen am dai newydd yn ardal leol Conwy.

Ond mi fyddai’r cais hefyd “yn debygol o gyfrannu tuag at ostyngiad yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn Abergele”.

Mae rhai trigolion lleol eisoes wedi lleisio eu gwrthwynebiad i’r cynllun, gan fynegi pryderon am ‘ddiogelwch ar y ffordd’ yn sgil traffig ychwanegol o’r datblygiad.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.