Gostyngiad blynyddol mwyaf mewn prisiau tai ers 2009
01/09/2023
Fe wnaeth prisiau tai ar draws y DU syrthio fis diwethaf - y gostyngiad blynyddol mwyaf ers 2009.
Roedd gostyngiad fis ar ôl mis o 0.8% ym mis Awst ar brisiau tai cyfartalog ar draws y DU, yn ôl mynegai'r Nationwide Building Society.
Mae prisiau tai bellach 5.3% yn is nag yr uchafbwynt ym mis Awst 2022.
Y pris cyfartalog am dŷ yw £259,153 bellach.
Dywedodd Robert Gardner, prif economegydd Nationwide: “Ym mis Awst gwelwyd meddalu pellach yn y gyfradd flynyddol o dwf prisiau tai i finws 5.3%, o finws 3.8% ym mis Gorffennaf, y gyfradd wannaf ers Gorffennaf 2009.”