Ymestyn cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru i fyfyrwyr gofal iechyd
Mae cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru i fyfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2024-25 wedi cael ei ymestyn.
Daeth cadarnhad dydd Gwener gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd y myfyrwyr hefyd yn gallu cael mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth yn eu blynyddoedd Bwrsariaeth.
Mae myfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd sy’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso yn gymwys ar gyfer y fwrsariaeth.
Mae’r cynllun yn darparu cymorth nad oes rhaid ei ad-dalu sy’n cwmpasu ffioedd dysgu a chostau byw.
Bydd myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth sydd fel arfer yn byw yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth yn eu blynyddoedd Bwrsariaeth, ble bynnag maent yn astudio yn y DU.
Nod y cynllun yw rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau’r fwrsariaeth tan 2025 ac i helpu myfyrwyr a darparwyr cyrsiau i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y ffordd orau o gefnogi pobl sy’n astudio rhaglenni gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i ddenu a chadw’r myfyrwyr disgleiriaf a gorau.
'Cynnig deniadol i fyfyrwyr'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gynnig deniadol i fyfyrwyr gofal iechyd talentog.
“Dyna pam rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn hyfforddiant y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein GIG.
“Mae’r fwrsariaeth hon wedi helpu cymaint o bobl i gymhwyso a gweithio yn y GIG, gan gryfhau ein gweithlu.
“Bydd mynediad at swm llawn y benthyciad cynhaliaeth hefyd yn helpu’r rhai sy’n dechrau ar eu teithiau gofal iechyd, meddygol a deintyddol i frwydro yn erbyn caledi ariannol ac iechyd meddwl gwael yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus.”
'Pwysig'
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi myfyrwyr gofal iechyd yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, fel y gallwn hyfforddi a chadw gweithlu meddygol medrus yng Nghymru.
“Dyna pam rydym yn darparu cyllid i alluogi myfyrwyr Bwrsariaeth y GIG i gael gafael ar y benthyciad cynhaliaeth lawn, gan sicrhau nad yw caledi ariannol yn ffactor wrth atal myfyrwyr rhag astudio yma."
Ychwanegodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: “Rwyf wrth fy modd ein bod unwaith eto yn ymestyn bwrsariaeth y GIG ac yn dangos ymrwymiad clir i sicrhau cynaliadwyedd gweithlu’r GIG yn y dyfodol.”