Newyddion S4C

Eglurhad am drafferthion brynhawn Llun ond yr oedi'n parhau mewn meysydd awyr

30/08/2023
Maes awer

Bydd nifer o hediadau ddydd Mercher i ddod â phobl o'r Deyrnas Unedig yn ôl adref, wedi trafferthion technegol y rhwydwaith rheoli traffig awyr ddydd Llun. 

Ond mae'r trafferthion ddechrau'r wythnos yn dal i achosi problemau ac oedi mewn meysydd awyr.  

Mae'r Gwasanaethau Traffig Awyr ( Nats) wedi cadarnhau bellach mai nam technegol yn ymwneud â data un hediad oedd ar fai, gyda'u prif systemau a'r rhai wrth gefn yn ymateb drwy atal y system brosesu awtomatig. 

Yn ôl prif weithredwr Nats Martin Rolfe, does "dim arwyddion" mai ymosodiad seibr achosodd y trafferthion. 

Bydd pum taith ychwanegol gan gwmni EasyJet ddydd Mercher i ddod â theithwyr yn ôl i faes awyr Gatwick yn Llundain. 

A bydd eu hawyrennau mwyaf yn gweithredu o leoliadau poblogaidd fel Faro, Dalaman a Tenerife.  

Wrth ymhelaethu ar yr hyn ddigwyddodd ddydd Llun, dywedodd Mr Rolfe bod Nats yn gweithio'n agos â'r Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn darparu adroddiad rhagarweiniol ar gyfer Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Mark Harper ddydd Llun. Bydd y manylion yn ffynhonnell gyhoeddus. 

Ychwanegodd fod pob un o systemau Nats wedi bod yn gweithredu fel yr arfer ers brynhawn Llun.

Yn ôl cwmni ystadegau Cirium, cafodd 790 o hediadau o'r DU a 785 hediad i'r DU eu canslo ddydd Llun. Mae hynny'n gyfystyr â 27% o'r holl hediadau oedd ar y gweill, sy'n golygu bod y trafferthion wedi effeithio ar oddeutu chwarter miliwn o bobl. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.