Newyddion S4C

Rygbi: Cytundebau llawn amser i saith aelod arall o dîm menywod Cymru

29/08/2023
Rygbi Menywod Cymru

Mae saith chwaraewr arall o dîm rygbi menywod Cymru wedi ennill cytundebau proffesiynol llawn amser.

Daeth cadarnhad ddydd Llun y bydd saith chwaraewr ychwanegol yn arwyddo cytundebau llawn amser, a hynny cyn cystadleuaeth haen uchaf y WXV yn Seland Newydd ym mis Hydref.

Roedd 24 o chwaraewyr proffesiynol eisoes yng ngharfan Cymru wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi'r llynedd y bydd yn rhoi cytundebau llawn amser i rai chwaraewyr tîm y menywod am y tro cyntaf.

Y cefnwr Courtney Keight, y canolwr Hannah Bluck, yr asgellwr Carys Williams-Morris, y prop Abbey Constable, y blaenwyr Kate Williams a Bryonie King a'r mewnwr Megan Davies yw'r chwaraewyr diweddaraf i ennill statws proffesiynol.

Yn ogystal, bydd yr olwyr Jasmine Joyce a Kayleigh Powell yn dychwelyd i’r garfan hŷn ar gytundebau mewn partneriaeth â thîm saith bob ochr Prydain - fydd yn weithredol dros gyfnod y WXV a Phencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.

Daw hyn wrth i Gymru, sydd yn chweched ar restr detholion y byd, baratoi i wynebu tri o fawrion y gamp, Canada, Seland Newydd ac Awstralia, yn y WXV.

‘Buddsoddiad sylweddol’

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: "Dyma ddechrau ein trydydd tymor fel carfan broffesiynol ac rydym eisoes wedi gweld y manteision gyda'n perfformiadau yn y Chwe Gwlad a’r ffaith ein bod wedi hawlio’n lle yn haen uchaf y WXV, pan fyddwn yn chwarae timau gorau’r byd yn Seland Newydd.

"Mae'r chwaraewyr i gyd bellach yn deall yr hyn sydd ei angen i fod yn athletwr elitaidd ac mae cyhoedd Cymru wedi dangos eu bod yn gwerthfawrogi'r holl waith caled hwnnw.

"Rydym wedi gweld gwledydd eraill yn cynyddu nifer y chwaraewyr sydd o dan gontract hefyd ac mae’n rhaid i ni werthfawrogi a manteisio ar y ffaith bod cymaint o’n chwaraewyr ni bellach yn athletwyr llawn amser."

Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr Dros Dro URC: "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y garfan hon yng Nghymru, ac rydym yn gwybod na all y tîm sefyll yn llonydd.

“Er mwyn cystadlu gyda’r goreuon – mae’n rhaid eu hwynebu’n gyson ac er bo her y WXV yn sylweddol – mae hefyd yn gyffrous.

"Mae'r chwaraewyr wedi dangos gwerth y cytundebau hyn yn ystod y Chwe Gwlad ddiwethaf.

"Roedden ni i gyd wedi mwynhau a gwerthfawrogi sut wnaeth Ioan a'i chwaraewyr ddal dychymyg y cyhoedd y tymor diwethaf ac mae'r posibilrwydd o fesur eu hunain yn erbyn timau gorau'r byd yn Seland Newydd yn tynnu dŵr i’r dannedd"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.