
Pryder am ddiogelwch y cyhoedd oherwydd cyflwr morglawdd ger Caernarfon
Fe allai bywydau plant gael eu rhoi “mewn perygl” pe bai morglawdd sy’n dadfeilio yn dymchwel yn ôl mam-gu o Wynedd.
Mae Melanie Clowes o'r Foryd yng Nghaernarfon yn annog yr awdurdodau i “wneud rhywbeth yn fuan” i drwsio a chynnal a chadw'r safle wrth i'r arfordir erydu.Â
Mae lluniau yn awgrymu bod rhannau o'r tir yn ardal Y Foryd, ger y Fenai yn torri o dan y ffordd.
Mae’r llwybr arfordirol poblogaidd tua chwarter milltir o hyd, yn cael ei ddefnyddio'n aml gan gerddwyr a rhedwyr.
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymateb i bryderon Mrs Clowes.

Cadarnhaodd y cyngor ei fod yn cynnal trafodaethau â phartneriaid er mwyn asesu seilwaith arfordirol “heriol” Gwynedd ac yn edrych ar “opsiynau i ddod o hyd i ateb hirdymor.”
Yn y cyfamser, bydd y cyngor yn ailymweld â’r safle i “werthuso’r sefyllfa” ac ystyried pa fesurau byrdymor sydd eu hangen i “warchod y cyhoedd.”
'Methu cysgu yn y nos'
Ar ôl gweithio a byw yn yr ardal am 24 mlynedd, dywedodd Mrs Clowes a’i gŵr eu bod wedi gweld yr ardal yn dirywio, ond mae’n honni bod y sefyllfa’n waeth ar ôl y stormydd diweddar.
“Mae’r wal gynnal ar hyd y Fenai mewn cyflwr gwael iawn,” meddai.
“Mae wedi bod mewn cyflwr bregus lle gallai ddymchwel ers sawl blwyddyn, er gwaethaf y ffaith bod amryw o bobl a minnau wedi cysylltu â’r cyngor dros y blynyddoedd.
“'Dw i ddim yn siŵr pwy sy’n gyfrifol, ond yn fy marn i, fe ddylen nhw wneud mwy i gynnal yr ardal.”
“Petai plentyn yn chwarae i mewn yna, bydden nhw'n farw os yw'r wal yn cwympo, dim ond mater o amser ydi o mewn gwirionedd cyn y bydd marwolaeth. 'Dw i methu cysgu yn y nos, mae'n bryder."
Monitro
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ei fod yn monitro'r sefyllfa yn barhaol ac yn edrych ar yr holl opsiynau i drwsio'r wal.
“Yn anffodus, mae codiadau yn lefel y môr a stormydd amlach sy'n cael eu hachosi gan gynhesu byd-eang yn niweidio amddiffynfeydd arfordirol, ffyrdd arfordirol a llwybrau mewn sawl ardal ar hyd arfordir Gwynedd.
“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, i amddiffyn y cyhoedd, monitro newidiadau a chynnal neu wella seilwaith arfordirol.
“Fodd bynnag, mae maint y newid yn yr hinsawdd a’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn golygu bod honno’n dasg gynyddol heriol.
“O ran y Foryd ger Caernarfon, fel mesur dros dro, mae ffensys wedi’u gosod yn eu lle i atal aelodau’r cyhoedd rhag cael mynediad i’r rhannau hynny o’r morglawdd sydd wedi’u difrodi dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae’r cyngor ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i ffurfio ateb hirdymor i fynd i’r afael â’r difrod parhaus i’r morglawdd.
“Yn y cyfamser, bydd swyddogion yn ail-ymweld â’r safle i werthuso’r sefyllfa ac i ystyried pa fesurau tymor byr sydd angen eu gweithredu i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”