Nadine Dorries yn beirniadu Rishi Sunak wrth iddi adael San Steffan
26/08/2023
Mae Nadine Dorries wedi ymddiswyddo fel aelod seneddol y DU, ddeufis ar ôl iddi addo rhoi’r gorau i’w sedd.
Mewn datganiad dywedodd wrth y Prif Weinidog Rishi Sunak “na fydd hanes yn eich barnu’n garedig”.
Fe wnaeth aelod seneddol ceidwadol dros Mid Bedforshire gyhoeddi ei bwriad i ymddiswyddo ar 14 Mehefin.
Dywedodd fod Mr Sunak wedi rhoi’r gorau i “egwyddorion sylfaenol Ceidwadaeth”.
Nid oedd hi wedi siarad yn San Steffan ers Mehefin 2022.
Roedd wedi cynrychioli ei hetholaeth ers 18 mlynedd.