Ffrainc i ddinistrio gwin wrth i alw amdano ostwng
Mae Llywodraeth Ffrainc wedi neilltuo 200 miliwn Ewro (tua (£171m) i ddinistrio gwin sydd dros ben, er mwyn cefnogi cynhyrchwyr.
Daw hyn ymhlith problemau i’r diwydiant gwin, gan gynnwys lleihad yn y galw wrth i bobl yfed mwy o gwrw crefft.
Mae gor-gynhyrchu a’r argyfwng costau byw hefyd wedi effeithio’r diwydiant.
Fe fydd rhan fwya’r €200m yn cael ei ddefnyddio i brynu stoc sydd dros ben.
Fel ymgais i fynd i’r afael â gor-gynhyrchu fe fydd arian ar gael hefyd i annog cynhyrchwyr i arallgyfeirio i gynnyrch eraill fel tyfu olewydd.
Dywedodd Llywodraeth Ffrainc eu bod nhw’n anelu i atal “prisiau rhag dymchwel er mwyn i gynhyrchwyr gwin ddod o hyd i ffynhonnell refeniw unwaith eto”.
Dywedodd gweinidog amaeth Ffrainc Marc Fesneau: “Mae’n rhaid i’r diwydiant edrych i’r dyfodol, meddwl am newidiadau defnyddwyr, ac addasu.”
Yn ôl Comisiwn Ewrop am y flwyddyn i fis Mehefin eleni, mae yfed gwin wedi gostwng 7% yn Yr Eidal, 10% yn Sbaen, 15% yn Ffrainc, 22% yn Yr Almaen a 34% ym Mhortiwgal.