Cyngor i deithwyr gynllunio o flaen llaw oherwydd cyfyngiadau gwasanaethau trên
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori teithwyr i “gynllunio o flaen llaw” oherwydd cyfyngiadau ar wasanaethau tren.
Dywedodd undeb yr RMT fod gweithwyr 16 o gwmnïau trenau yn streicio ddydd Sadwrn.
Mae’ rhain yn cynnwys Great Western Railway yn ne Cymru ac Avanti yng ngogledd Cymru.
Mae 20,000 o weithwyr yn streicio ar draws Lloegr ac er nad yw staff Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu diwydiannol, fe fydd nifer o'u gwasanaethau yn cael eu heffeithio.
Dywedodd y cwmni bod disgwyl i nifer o'u gwasanaethau fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen sydd "wedi'i chwtogi'n sylweddol".
Bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau ar 26 Awst, 1 Medi a 2 Medi.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn galw ar deithwyr i wirio'r amserlen yn gyson ar y dyddiau hyn rhag ofn bod newidiadau.
Dydd Sadwrn 26 Awst a Dydd Sadwrn 2 Medi
Oherwydd tarfu sy’n effeithio ar weithredwyr trenau eraill, bydd rhai gwasanaethau TrC yn brysurach nag arfer a bydd tarfu ar y gwasanaethau canlynol:
Gwasanaethau yn gynnar yn y bore (cyn 07:00) a gwasanaethau gyda’r nos (ar ôl 19:00):*
- Bydd gwasanaethau Cheltenham/Caerloyw yn dechrau ac yn gorffen yn Lydney.
- Bydd gwasanaethau Birmingham yn dechrau ac yn dod i ben yn Birmingham New Street ac ni fyddant yn galw yn Wolverhampton na Birmingham International.
- Arfordir Gogledd Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn dod i ben yng Nghaer. (Dim gwasanaeth rhwng Caer - Manceinion).
- De Cymru - bydd gwasanaethau Manceinion yn dechrau ac yn dod i ben yn Nantwich. (Dim gwasanaethau rwng Nantwich - Crewe - Manceinion Piccadilly).
- Ni fydd y gwasanaethau rhwng Liverpool Lime Street a Chaer yn rhedeg.
*bras amseroedd
Gwasanaethau sydd yn cael eu heffeithio trwy’r dydd:
- Bydd trenau o Dde Cymru i Fanceinion Piccadilly yn dechrau yn Stockport yn unig (oherwydd pryderon gorlenwi) ac ni fyddant yn galw yn Wilmslow.
- Bydd trenau Manceinion Piccadilly i Dde Cymru ond yn codi cwsmeriaid yn Stockport (oherwydd pryderon gorlenwi) a ddim yn galw yn Wilmslow.
- Arfordir Gogledd Cymru - Ni fydd trenau Manceinion Piccadilly yn galw yn Manchester Oxford Road a Warrington Bank Quay.
Dydd Gwener 1 Medi
Mae disgwyl i wasanaethau fod yn hynod o brysur eto ar 1 Medi yn ogystal.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaethau yn rhedeg yn ôl yr amserlen arferol ond bydd y llwybrau canlynol yn brysurach nag arfer:
- Caerdydd - Caerloyw - Cheltenham
- Caerdydd - Amwythig - Manceinion
- Caerfyrddin - Cyffordd Twnnel Hafren
- Caergybi - Manceinion Piccadilly
- Amwythig - Birmingham International
- Amwythig - Caer - Caergybi