
Amcangyfrif nifer yr ymwelwyr i Eryri oherwydd ‘problemau technegol’ gydag offer cyfrif
Amcangyfrif nifer yr ymwelwyr i Eryri oherwydd ‘problemau technegol’ gydag offer cyfrif
Ni chafodd nifer yr ymwelwyr i rai o fynyddoedd mwyaf poblogaidd Eryri eu cofnodi'n llawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd problemau technegol ar yr offer sy’n cyfrif y niferoedd o ymwelwyr yn golygu nad oedd modd gwybod i sicrwydd cyfanswm yr ymwelwyr ar sawl llwybr poblogaidd yn ystod 2022, gyda phroblemau technegol yn parhau eleni hefyd.
Roedd nifer o lwybrau yn wynebu’r un broblem, gan gynnwys llwybrau ar Yr Wyddfa, Cadair Idris a rhai yn Nyffryn Ogwen.
Nid oedd ffigwr chwaith am y nifer o ymwelwyr ar lwybr Llanberis rhwng 1 Ionawr 2022 a 22 Medi 2022 oherwydd nad oedd peiriant wedi cael ei osod mewn pryd.
O ganlyniad, fe benderfynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddefnyddio’r ffigyrau o 2019, sef y flwyddyn cyn y pandemig Covid-19, gyda model dadansoddi ystadegol er mwyn amcangyfrif y niferoedd ar gyfer 2022.
Dywedodd yr Awdurdod fod yr oedi wedi ei achosi oherwydd bod angen i’r offer cyfrif gael ei yrru dramor i gael ei drwsio neu ar gyfer gosod batri newydd, ac fod ambell i declyn wedi cael "eu difrodi gan bobl".
Mae’r Awdurdod yn dweud ei fod “hyderus” fod yr amcangyfrifon yn “agos iawn” at y wir niferoedd a fu’n ymweld.
‘Rhwystredig’
Mae data'r cownteri yn dangos fod 587,864 o bobl wedi dringo’r Wyddfa yn 2019.
Yn 2022, nid oedd peiriannau cyfrif yn gweithio ar dri o’r chwe llwybr mwyaf poblogaidd ar y mynydd.

Mae’r Parc yn amcangyfrif fod gostyngiad bach o 0.2% wedi bod yn y niferoedd a wnaeth ymweld â’r Wyddfa'r llynedd, tra bod bron i 10% yn llai o bobl wedi defnyddio llwybr Llanberis yn 2022 nag yn 2021.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod bron i 20,000 yn fwy o gerddwyr wedi bod ar lwybr Watkin yn 2022 nag yn 2019, gyda rhai yn awgrymu mai dylanwad y cyfryngau cymdeithasol yw’r rheswm am hynny.
Er hynny, mae cryn drafodaeth yn lleol dros y niferoedd o ymwelwyr i’r ardal.
Dywedodd Daniel Goodwin, Uwch Swyddog Cadwraeth gyda Chymdeithas Eryri: “Gan fod y peiriant ddim yn gweithio, mae’n anodd cael y llun cywir, os di’r niferoedd ‘di mynd i fyny neu lawr.
“Doeddan ni ddim yn poeni gormod am hynny, ond jyst bod o’n rhwystredig bod ni methu gweld y data cywir dros y cyfnod.
“Mae’r data yn sicr yn rhywbeth ‘da ni’n sbïo ar a gweld lle mae angen gwirfoddolwyr. Ond da ni ddim just yn ddibynnol ar y data o’r peiriannau, da ni’n siarad efo’r wardeiniaid sydd ar y ddaear. Mae’n dibynnu fwy ar sut mae’r ymwelwyr yn ymddwyn.
“Mae’r llefydd fel llwybr Watkin, swn i ddim yn synnu os fysa’r niferoedd di mynd i fyny yn fan ‘na. Mae’r Instagram effect yn sicr di cael effaith yn fana, efo lot mwy o bobl nag arfer yn mynd yna, ond ella llai o bobl i lefydd eraill. Mae pobol yn mynd i fyny i’r pools a ddim yn mynd i’r copa o fana.
“Dwi’n meddwl ein hargraff ni ar y ddaear, jyst o fod allan yn hel sbwriel, ydi bod hi wedi bod yn ddistawach yn ddiweddar blwyddyn yma.”
Denu twristiaid
Mae Steffan Roberts, perchennog bwthyn tê Penceunant Isaf ar lethrau'r Wyddfa yn credu fod y niferoedd ar gynnydd, ac yn galw ar well rheolaeth ar y mynydd gan wardeniaid.
“Doedd ‘na ddim llai o bobl wedi dod blwyddyn dwytha, ac mi oedd ffigyrau ni yn uwch blwyddyn dwytha yn sicr,” meddai. “Dwi ddim yn meddwl odd hi’n dawelach yma o gwbl.

“Mae llai o bobl ar feics ond mae’r footfall o bobl yr union yr un peth, os nad ydi o’n fwy. Dwi’n gweithio yn fama saith diwrnod a dwi yma drwy’r amser. Mae’r gwesty lawr lôn yn llawn, mae’r trên yn llawn a swni’n deud nac ydi.
“Pobol ar y mynydd, nei di’m newid huna. Be da ni isho ar y mynydd ydi mwy o wardens ac mae isho’r cownteri ma i gyfri’ pobol. Mae isho’r wardens ar y mynydd i adfeisio pobl a deud i bawb cadw eu cŵn ar dennyn. Dyna’r ateb.
“Mae’r Wyddfa yn denu twristiaid ac maen nhw’n dod a lot o bres i’r ardal. Mi ydan ni angen nhw. Dwi’n cyflogi pum staff Cymraeg yma rŵan, sut maen nhw’n cael eu talu?”
‘Ffyddiog’
Dywedodd Peter Rutherford, Rheolwr Mynediad, Iechyd a Lles, Parc Cenedlaethol Eryri, fod y Parc yn "chwilio am arian" i adnewyddu’r offer gan nad yw gwneuthurwyr yr hen offer ddim yn eu trwsio a’u gwasanaethu bellach.
Ychwanegodd: “Da ni wedi prynu rywfaint o’r offer newydd ond ‘da ni’n fyr o bobl i osod nhw, a da ni’n chwilio am bres i newid yr hen offer sydd gennym ni.
“Mae un neu ddau wedi cael eu malu gan bobol. Mae 'na bobol sy’n neud o, yn anffodus, ac mae’n costio pres i’w drwsio. Dio ddim yn lot o broblem, ond mae’n niwsans pan mae'n digwydd ac mae’n achosi i ni golli data.
“Ond ‘da ni’n hapus efo’r ffigyrau achos maen nhw’n reit gyson bob blwyddyn. Da ni’n ffyddiog fod y ffigyrau yn agos iawn ati a does 'na ddim risg fod y ffigyrau yn anghywir. Da ni ddim yn neud ffigyrau i fyny, mae rhain yn based ar normal statisical analysis.
“Mi oeddan ni yn disgwyl i’r ffigyrau mynd i lawr yn 2022, ar ôl Covid, achos mi oeddan ni’n ‘maxed out’ yn y cyfnod hwnnw achos doedd neb yn gallu mynd dramor. Mi oedd o’n rhemp adeg yna. A da ni’n disgwyl i’r ffigyrau mynd i lawr eto eleni achos di’r tywydd heb fod mor dda eleni.
“Mae’r ffigyrau yn dangos lle mae’r llwybrau prysuraf a lle dyla ni wario ein pres i’w cadw nhw. Dyna pam da ni’n hel y data.
“Da ni’n defnyddio nhw i weld lle sy’n brysur. Os da ni isho cyflogi staff tymhorol, os da ni isho neud maintenance, da ni’n gwybod lle mae’r pressure points.
“Maen nhw’n helpu dangos be ydi gwerth rhywle fel Yr Wyddfa, er enghraifft. Ond mae ‘na mwy na just Yr Wyddfa i feddwl amdan yn fama.”