Newyddion S4C

Treth ar dwristiaeth: 'Angen edrych ar esiampl gwledydd eraill Ewropeaidd'

Treth ar dwristiaeth: 'Angen edrych ar esiampl gwledydd eraill Ewropeaidd'

Mae angen edrych yn fanylach ar esiampl gwledydd eraill Ewropeaidd os am sicrhau y bydd treth dwristiaeth yn cael effaith gadarnhaol yma yng Nghymru yn ôl un ymgyrchydd tai.

Bwriad Llywodraeth Cymru ydi rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol godi treth ar dwristiaid erbyn diwedd tymor y senedd hwn.

Yn ôl Wallis George sy’n gyn bennaeth cymdeithas dai yn y gogledd ac yn ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith, mae’n angenrheidiol edrych ar esiamplau tramor, hyd yn oed os nad yw’r dystiolaeth yn cyd-fynd a’r hyn mae o am weld.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae trethi o’r fath yn “gyffredin ar draws y byd, gyda’r cyllid yn cael ei ail fuddsoddi mewn cymunedau lleol, busnesau a thwristiaid”.

Mae’r cynllun i gyflwyno treth o’r fath wedi cythruddo rhai aelodau blaenllaw y sector dwristiaiaeth ac aelodau’r blaid Geidwadol sy’n dweud y byddai’r dreth yn niweidio’r sector.

Ond mynnu mae rhai o blaid y dreth y byddai’n gyfle i fuddsoddi a gwella isadeiledd ardaloedd poblogaidd Cymru.

Image
Vincenzo Constabule
Vincenzo Constabule

'Cyfnod anodd'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cwrdd yn rithiol gyda chynrychiolwyr o wledydd lle mae’r dreth eisoes ar waithdfel Catalwnia, Amsterdam a Seland Newydd.

Mewn rhai mannau yn Sbaen fel Barcelona, mae treth o’r fath yn hen arferiad, ond mae na ddadlau mewn ardaloedd eraill y wlad am effaith cynllun tebyg.

Yn debyg i Gymru, mae ardal Valencia yn ne Sbaen wedi bod yn cyflwyno deddf i ddechrau treth fechan ar dwristiaid.

Ond ers gwneud hynny, mae’r blaid sy’n gyfatebol i’r blaid Lafur yno, wedi colli yn yr etholiadau rhanbarthol gydag adroddiadau lleol rŵan yn awgrymu fod y blaid geidwadol yn Valencia yn bwriadu diddymu’r ddeddf.

Mae’n glir felly fod y syniad o dreth i dwristiaid yr un mor ddadleuol mewn mannau yn Ewrop ag yw hi yma yng Nghymru.

Ar un o lonydd cul crasboeth Valencia mae gan Vincenzo Constabule siop sy’n llogi beics a sgwteri trydan- ei brif ffynhonnell o incwm felly yw twristiaid.

Mae’n dweud nad yw’n erbyn y syniad yn llwyr ond fod yr amseru yn ei boeni.

“Ar hyn o bryd, ‘dwi ddim am weld treth ar dwristiaid," meddai.

“Mi yda ni newydd ddod allan o bandemig a barodd dwy i dair blynedd lle brofodd siopau, yn gyffredinol, ostyngiad mawr yn yr hyn oedde nhw’n ei werthu”.

“Mae o wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd yn ein bywydau a dwi’n meddwl mai rŵan yw’r cyfnod i helpu rheini sy’n gweithio mewn siopau fel un ni”.

Image
Barcelona
Barcelona

'Fforddiadwy'

Mae’r ddadl felly yn croesi ffiniau gwledydd ac yn sgwrs fyw ar draws y cyfandir.

Yn ôl yng Nghymru mae’r galw am weithredu mewn ardaloedd twristaidd Cymru yn glir ac yn Llanberis, does dim angen edrych yn bell am y galw yn lleol i weithredu.

“Gan fod polisïau tai, cynllunio a materion eraill wedi eu datganoli i Senedd Cymru, dwi’n meddwl fod o’n anorfod y dyle ni edrych ar ranbarthau a gwledydd llai yn Ewrop," meddai Wallis George sy’n Ymgyrchydd Tai ac yn gyn bennaeth Cymdeithas Dai.

“Da ni angen datblygu system dai yn sicr sy’n seiliedig ar nodau cyhoeddus ac yn sicrhau bod y mwyafrif o’r stoc yn fforddiadwy i bobl leol, nid dim ond i bobl ar incwm isel ond hefyd ar incwm ganolig."

Yn ôl Mr George, mae’n bwysig hefyd gwrando ar y dadleuon ar y ddwy ochr hyd yn oed os nad yw’n cyd fynd a’r hyn mae o am weld.

Image
Meic Alger
Meic Alger

'Amhosib'

Tair awr tua’r gogledd o ardal Valencia mae dinas Barcelona wedi cyflwyno cyfres o fesurau dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael a gor-dwristiaeth, ond mae prinder tai o bobl leol dal i fod yn broblem enfawr.

Wrth gerdded drwy ardal La Rambla, yng nghanol Barcelona mae Meic Alger yn cyfeirio at y fflatiau sy’n ymestyn i’r awyr gan ddweud bod y rhan helaeth bellach yn Air BNB’s.

“Mae’r fflatiau i gyd yn rhai i dwristiaid neu yn swyddfeydd," meddai.

Mae’n esbonio fod nifer o bobl leol sy’n llwyddo i fyw yng nghanol y ddinas, fel o, ar hen gytundebau sy’n sicrhau bod modd iddyn nhw aros yno.

Ond mae’r cyfle i bobl ifanc yn brin.

“Bydd rhaid cael lot o arian i rentio fflat nawr yma, ac mae’n amhosib i bobl ifanc," meddai.

“Fel arfer mae pobl yn byw gyda’u rhieni tan bod nhw’n 30-35 mlynedd, mae o jest yn amhosib ffeindio fflat."

Image
Arwydd

Bwriad Llywodraeth Cymru ydi cyflwyno deddf o’r fath erbyn diwedd tymor y senedd hwn.

“Mi fyddai ein cynlluniau yn galluogi i awdurdodau lleol benderfynu os ydi nhw am godi treth fechan ar dwristiaid wedi ei selio ar anghenion eu cymunedau," meddai llefarydd.

“Ein bwriad ydi mabwysiadu ethos o rannu cyfrifoldebau rhwng trigolion ac ymwelwyr er mwyn gwarchod, buddsoddi ac annod twristiaeth gynaliadwy."

Er hyn mynnu mae’r Ceidwadwyr Cymreig a rhai aelodau blaenllaw y sector dwristiaeth y byddai’n niweidio’r sector, mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn trafod yn gyson gyda gwledydd eraill er mwyn cyflwyno deddf fyddai’n elwa cymunedau tebyg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.