Darganfod corff mewn car wedi ei losgi ym Mhenrhyn Gŵyr
Mae corff wedi cael ei ddarganfod mewn car oedd ar dân ym Mhenrhyn Gŵyr, ger Abertawe.
Roedd adroddiadau gan bobl leol bod "car yn llosgi" yn y Crwys.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i leoliad y car gan ddiffoddwyr tân brynhawn ddydd Llun wedi i gorff gael ei ddarganfod yn y car.
Dywedodd swyddogion bod achos y farwolaeth yn aneglur ac mae ymholiadau yn cael eu cynnal i ddarganfod manylion y digwyddiad.
"Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r lleoliad toc cyn 12:15 prynhawn ddydd Llun, Awst 21 gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru," meddai llefarydd.
"Wrth gyrraedd fe wnaeth swyddogion ddarganfod corff tu mewn i'r car. Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel marwolaeth aneglur ar hyn o bryd.
"Mae swyddogion yn y broses o adnabod y person ac yn parhau gydag ymholiadau i ddarganfod amgylchiadau llawn y digwyddiad."