Menywod Tân Cymreig yn cyrraedd ail gymal y 100 pelawd
Mae Menywod Tân Cymreig wedi cyrraedd ail gymal y 100 pelawd ar ôl gorffen yn drydydd yn eu grŵp.
Fe wnaethon nhw sicrhau eu lle er iddynt golli yn erbyn y Northern Superchargers o Leeds nos Fawrth.
Bydd y Tân Cymreig yn chwarae yn y rownd nesaf yn Stadiwm yr Oval ar 26 Awst.
Os ydynt yn ennill y rownd honno byddant yn chwarae yn y rownd derfynol yn Stadiwm Lord's ar 27 Awst.
Fe all tîm y dynion gyrraedd yr ail rownd yn ogystal.
Fe wnaethon nhw sicrhau buddugoliaeth yn erbyn tîm dynion y Northern Superchargers nos Fawrth.
Ond bydd angen i'r Manchester Originals guro Southern Brave ddydd Mercher er mwyn i'r dynion gyrraedd y rownd nesaf.
Llun: Asiantaeth Huw Evans