Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau penwythnos y Cymru Premier JD

Sgorio 26/08/2023
Darren Thomas Caernarfon

Wedi dwy gêm, Y Seintiau Newydd, Caernarfon a Phen-y-bont sy’n gosod y safon gyda record 100% yn y gynghrair, tra bod yr unig ddau i golli eu dwy gêm agoriadol yn cyfarfod ddydd Sadwrn, sef Y Drenewydd ac Aberystwyth.

Met Caerdydd v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 14:30

Am yr ail benwythnos yn olynol bydd Bae Colwyn yn gwneud y daith i’r de wrth i’w hymgyrch gyntaf erioed yn yr uwch gynghrair barhau.

Sicrhaodd Bae Colwyn eu pwynt cyntaf yn y gynghrair oddi cartref yn Y Barri brynhawn Sadwrn diolch i foli ryfeddol Tom Creamer o’r cylch canol (Barr 1-1 Bae).

Dyw Met Caerdydd heb ildio yn eu dwy gêm agoriadol gan ennill 1-0 yn Aberystwyth a chael gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Bala.

Bae Colwyn oedd yn fuddugol yn yr unig gêm flaenorol rhwng y clybiau yn Hydref 2021, gan achosi sioc ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru diolch i gôl gynnar Jack Higgins, cyn i Eliot Evans fethu cic o’r smotyn i’r myfyrwyr (Bae 1-0 Met).

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅➖

Bae Colwyn: ❌➖

Hwlffordd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30

Dwy gêm, un pwynt a dim goliau – dyna stori’r tymor i Hwlffordd hyd yma, fydd yn benderfynol o hawlio eu buddugoliaeth gyntaf a’u gôl gyntaf ddydd Sadwrn.

Ond Caernarfon yw’r ceffylau duon ar ddechrau’r tymor, yn chwalu Bae Colwyn o 4-0 ar y penwythnos agoriadol cyn curo’r Drenewydd am y tro cyntaf mewn 10 gêm.

Mae’r chwaraewr newydd Marc Williams wedi serennu i’r Cofis ac yn gydradd gyntaf ar restr y creuwyr ar ôl creu tair gôl mewn dwy gêm, ond bydd rhaid i Gaernarfon ymdopi heb Adam Davies gafodd ei hel o’r cae ar ôl derbyn dau gerdyn melyn nos Wener.

Dyw Caernarfon ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd (ennill 4, cyfartal 1), ond dyw’r Cofis heb fod ar eu gorau wrth deithio’n bell gan ennill dim ond un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf yn y de neu’r canolbarth (colli 7, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ➖❌

Caernarfon: ✅✅

Y Seintiau Newydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae record berffaith y pencampwyr yn parhau, er roedd rhaid aros 79 munud cyn i Dan Williams rwydo unig gôl y gêm i’r Seintiau ym Mhontypridd ddydd Sadwrn diwethaf.

Y Seintiau sydd ar frig y tabl a’r rhestr sgorio ar ôl rhwydo saith gôl y tymor yma, a bydd Craig Harrison yn mynnu safonau uchel a phwyntiau llawn yn eu gemau nesaf yn erbyn Y Barri, Bae Colwyn ac Aberystwyth.

Roedd rheolwr Y Barri, Steve Jenkins braidd yn siomedig yn dilyn eu gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Bae Colwyn dros y penwythnos ac mi fydd hi’n her anodd arall i’r newydd-ddyfodiaid ddydd Sadwrn.

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y timau ers Rhagfyr 2021, a dyw’r Seintiau heb golli mewn wyth gêm yn erbyn Y Barri (ennill 7, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅

Y Barri: ❌➖

Y Drenewydd v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 17:15 (Arlein)

Bydd y ddau dîm isa’n y tabl yn cyfarfod nos Sadwrn gyda’r Drenewydd ac Aberystwyth yn gobeithio parhau â’u record fel yr unig glybiau sydd wedi bod yn aelodau di-dor o’r uwch gynghrair ers y tymor cyntaf un yn 1992.

Ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ym mis Ebrill, efallai nad yw hi’n syndod gweld Aberystwyth ar waelod y domen yn dilyn colledion yn erbyn Met Caerdydd a Chei Connah.

Ac er bod Y Drenewydd wedi sefydlu eu hunain fel clwb ‘Chwech Uchaf’, mae ganddyn nhw arferiad drwg o ddechrau’n araf gyda’r Robiniaid yn yr 11eg safle wedi 12 gêm llynedd, ac yn 11eg wedi 14 gêm yn nhymor 2020/21.

Mae’r Drenewydd wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth, yn cynnwys eu buddugoliaeth ddiwethaf o 6-1 ar Barc Latham ym mis Rhagfyr.

Bydd gan golwr newydd Aberystwyth, Dave Jones bwynt i’w brofi wrth ddychwelyd i Barc Latham ble chwaraeodd am naw mlynedd cyn symud i Geredigion dros yr haf.

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ❌❌

Aberystwyth: ❌❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.

Llun: Fforograffiaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.