Newyddion S4C

Canser y prostad: Posibilrwydd y gallai sgan MRI leihau'r nifer o farwolaethau 'yn sylweddol'

22/08/2023
MRI.png

Gallai defnyddio sganiau MRI i sgrinio dynion ar gyfer canser y prostad leihau'r nifer o farwolaethau yn 'sylweddol' yn ôl ymchwilwyr. 

Dywedodd gwyddonwyr fod profion presennol wedi cael eu cysylltu â gor-ddiagnosis a gor-drin canser risg-isel.

Canser y prostad ydi'r canser mwyaf cyffredin ymysg dynion, ac ar hyn o bryd, gall dynion dros 50 oed ofyn am brawf gwaed PSA os ydyn nhw'n profi symptomau.

Fe wnaeth astudiaeth Reimagine wahodd 303 o ddynion rhwng 50 a 75 oed i gael prawf sgrinio MRI a phrawf PSA.

O'r nifer hyn, roedd yna 48 MRI (16%) oedd yn awgrymu presenoldeb canser y prostad er bod ganddynt ddwysedd PSA canolrifol.

O'r grŵp, roedd gan 32 lefelau PSA yn is na'r meincnod sgrinio presennol o 3ng/ml, sy'n golygu na fyddan nhw wedi cael eu cyfeirio am ymchwiliad pellach. 

Ar ôl asesiad gan y GIG, cafodd 29 dyn ddiagnosis o'r canser a oedd angen triniaeth, ac roedd gan 15 ohonyn nhw ganser difrifol a PSA yn llai na 3ng/ml.

Dywedodd yr Athro Caroline Moore o University College London sy'n arwain yr astudiaeth fod y canfyddiadau yn "pwysleisio'r angen i ystyried dull newydd ar gyfer sgrinio canser y prostad.

"Mae ein canlyniadau yn awgrymu yn gynnar y gallai MRI gynnig dull mwy dibynadwy o adnabod canser a allai fod yn ddifrifol yn gynt."

Ychwanegodd Nick James, sydd yn athro ymchwil canser y prostad yn Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain: "Gall MRI adnabod canser y prostad mewn cleifion gyda lefelau arferol PSA, a fyddai wedi cael eu methu drwy raglenni sgrinio PSA y unig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.