Newyddion S4C

Elinor Snowsill yn ymddeol o rygbi proffesiynol

22/08/2023
Elinor Snowsill

Mae un o chwaraewyr mwyaf profiadol rygbi menywod Cymru, Elinor Snowsill wedi cyhoeddi ei bod ymddeol.

Dywedodd bod y penderfyniad yn un anodd a'i bod hi'n hyderus bod dyfodol y gamp yng Nghymru mewn dwylo da.

"Mae'n chwerwfelys cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ar hyn o bryd.

"Ar ôl blynyddoedd o fod ar daith llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, mae'n teimlo ein bod ni'n ennill momentwm fel carfan ac yn dod yn agos at gyflawni pethau gwych o fewn y gêm.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd y garfan yn mynd ymlaen i wthio rygbi yng Nghymru i uchelfannau newydd yn nhwrnamaint XV, Cwpan Rygbi’r Byd 2025 a thu hwnt.

"Hoffwn ddiolch i ychydig o bobl sydd wedi bod yn ganolog i fy ngyrfa rygbi dros yr 16 mlynedd ddiwethaf.

"Drwy'r cyfan, mae fy nheulu wedi bod yno i mi. O Seland Newydd i Ganada ac ym mhob man yn y canol, maen nhw wedi bod i bron pob gêm ryngwladol a thwrnamaint 7 bob ochr.

"I fy mrawd Aron a fy nhad Gary, diolch am yr holl oriau rydych chi wedi'u treulio yn cicio pêl gyda mi ers plentyndod. Rydych chi'ch dau wedi bod yn hyfforddwyr cicio gorau i mi dros y blynyddoedd, taswn i ond wedi gwrando ar hanner yr hyn a ddywedoch wrthai", meddai. 

Mae Elinor Snowsill hefyd wedi diolch i'w mam, y cogydd ar raglenni S4C a'r ymgynghorydd bwyd, Nerys Howell.   

"I fy mam, Nerys.. diolch am bopeth".

"Mae wedi bod yn daith a hanner ! Diolch yn fawr".

Gyrfa gampus 

Yn ystod ei gyrfa mae Snowsill wedi ennill 76 cap dros Gymru ac wedi chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei gwlad yn stadiwm Sain Helen yn Abertawe yn 2009, a daeth ei chap olaf yn erbyn Yr Eidal yn Parma wrth i Gymru orffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Snowsill oedd un o'r 12 chwaraewraig oedd wedi derbyn cytundeb proffesiynol, y grŵp o chwaraewyr benywaidd cyntaf i ennill cytundebau proffesiynol.

Bydd Snowsill yn ymgymryd â rôl newydd gyda Phrifysgol Met Caerdydd fel Arweinydd Datblygu Chwaraewyr ar gyfer Canolfan Datblygu Chwaraewyr newydd yn nwyrain Cymru

Mae'n bartneriaeth â Met Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru i ddarganfod a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rygbi Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.