Newyddion S4C

Cwmni gemau o America yn sefydlu ei bencadlys yng Nghymru

22/08/2023
cwmni gemau america

Mae cwmni gemau o'r Unol Daleithiau yn mynd i sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru. 

Bydd Rocket Science, sydd â swyddfeydd yn Efrog Newydd a Texas, yn agor ei stiwdio newydd yng Nghaerdydd ac yn creu 50 o swyddi ar gyfer graddedigion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe ddaw'r buddsoddiad yn dilyn taith fasnach gan swyddogion o'r llywodraeth i Gynhadledd y Datblygwyr Gemau yn San Francisco yn 2022. 

Fe wnaeth cyd-sylfaenydd Rocket Science Tom Daniel gysylltu â Brian Corrigan o Cymru Greadigol, sef asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, er mwyn 'trafod cynlluniau uchelgeisiol y cwmni i ehangu'.

Mae'r cwmni yn awyddus i greu presenoldeb yng Nghymru yn ogystal â chreu stiwdio Gymreig er mwyn gwasanaethu cwsmeriaid yn Ewrop. 

Bydd y cwmni yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru trwy ei Chronfa Economi’r Dyfodol (EFF) sydd yn helpu busnesau i fuddsoddi yn economi Cymru. 

Y disgwyl ydy y bydd y sector gemau yng Nghymru yn tyfu i fwy na $200bn erbyn 2025, yn ôl y llywodraeth.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru â’i hamcan strategol i ddatblygu’r diwydiant gemau yng Nghymru.

"Bydd gan stiwdio newydd Rocket Science y potensial i weddnewid y sector, trwy greu 50 o swyddi bras, sbarduno’r economi i dyfu a datblygu ymhellach sector gemau Cymru, gan greu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel i genedlaethau heddiw ac yfory."

Ychwanegodd Tom Daniel, cyd-sylfaenydd a chyd-bennaeth Rocket Science: "I ni, mae Caerdydd yn gyfle ffantastig i Rocket Science greu cartref yn Ewrop a manteisio ar y ddinas wych hon.

"Dwi wedi teimlo ers blynyddoedd bod gan Gaerdydd lawer iawn i’w gynnig i ddiwydiant gemau fideo’r byd a dwi wrth fy modd ein bod o’r diwedd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, yn troi hyn yn realiti."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.