Love Island: Cystadleuwyr LHDT yn creu 'heriau logistaidd'

Mae penaethiaid y gyfres deledu realaidd, Love Island, wedi dweud fod cynnwys cystadleuwyr LHDT yn y gyfres yn creu 'heriau logistaidd'.
Mewn cyfweliad a'r Radio Times, dywedodd comisiynydd ITV Amanda Stavri mai dyma'r "brif her yn ymwneud a fformat Love Island".
Daw'r sylwadau wedi sïon fod ITV yn chwilio'n benodol am gystadleuwyr LHDT ar gyfer y gyfres nesaf, yn ôl The Guardian.
Mae'r gyfres wedi cynnwys cwpl o'r un rhyw yn y gorffennol, gyda Katie Salmon a Sophie Gradon yn ymddangos yng nghyfres 2016.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.