Disgwyl i Lucy Letby gael ei dedfrydu fore Llun
Mae disgwyl i’r nyrs Lucy Letby gael ei dedfrydu i oes yn y carchar fore Llun.
Mae Letby wedi cael ei chanfod yn euog o lofruddio saith o fabanod, ac o geisio llofruddio chwech o fabanod eraill yn Ysbyty Iarlles Caer.
Mae disgwyl i’r barnwr Mr Ustus Goss roi gorchymyn oes i Letby, 33 oed, yn Llys y Goron ym Manceinion.
Roedd Letby yn gweithio fel nyrs yn yr uned newydd-anedig yn Ysbyty Iarlles Caer dros gyfnod o flwyddyn rhwng 2015 a 2016.
Mae Letby bellach yn cael ei hystyried fel un o lofruddwyr plant “mwyaf gwyrdroëdig” y DU, sydd hefyd yn cynnwys unigolion fel Ian Brady a Myra Hindley, llofruddwyr y Moors yn yr 1960au.
Mae Letby eisoes wedi awgrymu nad yw’n bwriadu dychwelyd i’r llys er mwyn cymryd rhan yn y gwrandawiad, ac nad yw’n bwriadu ymuno â’r gwrandawiad trwy gyswllt fideo o’r carchar chwaith.
Dywedodd Mr Ustus Goss nad oedd pŵer gan y llys i orfodi diffynnydd i fynychu eu dedfrydu, ond mae ffynhonnell o Lywodraeth y DU wedi dweud y gallai Letby gael ei “gorfodi’n gyfreithlon” i’r gwrandawiad pe bai’n cael ei ystyried yn “angenrheidiol,” yn “rhesymol” ac yn “gymesur.”
“Dylai Lucy Letby fod yn bresennol yn y llys er mwyn clywed condemniad y gymdeithas ohoni yn sgil difrifoldeb ei throseddau, a hynny wedi’i fynegi gan y barnwr,” meddai’r ffynhonnell.
Yn gynharach yn y flwyddyn, dywedodd Alex Chalk, sef Ysgrifennydd Cyfiawnder Llywodraeth y DU bod y llywodraeth “wedi ymrwymo” i newid y gyfraith fel bod troseddwyr yn cael eu gorfodi i fynychu eu gwrandawiadau dedfrydu.
‘Ymchwilio’
Mae Cymro oedd yn brif arbenigwr meddygol i’r erlyniad yn achos Lucy Letby eisoes wedi dweud y dylai penaethiaid ysbytai a fethodd â gweithredu yn dilyn pryderon am y nyrs, fod yn barod am ymchwiliad o ddynladdiad corfforaethol.
Mae Dewi Evans, pediatregydd ymgynghorol sydd wedi ymddeol, yn dweud y bydd yn ysgrifennu at Heddlu Sir Caer i ofyn iddynt ymchwilio i benaethiaid “hollol esgeulus” am beidio â gweithredu ar bryderon am Letby tra roedd hi'n llofruddio babanod, yn ôl The Observer.
Mae meddygon ymgynghorol wnaeth godi pryderon am Letby mor bell yn ôl â 2015 wedi dweud y gallai babanod fod wedi cael eu hachub pe bai rheolwyr yr ysbyty wedi gwrando a gweithredu'n gynt.
Cododd prif ymgynghorydd uned newydd-anedig Ysbyty Iarlles Caer, Dr Stephen Brearey, gysylltiad â Letby am y tro cyntaf yn dilyn cynnydd mewn achosion o farwolaethau babanod ym mis Mehefin 2015.
Dywedodd wrth The Guardian y gellid dadlau y gellid bod wedi osgoi marwolaethau mor gynnar â mis Chwefror 2016 pe bai swyddogion wedi “ymateb yn briodol” i gais am gyfarfod brys gan feddygon oedd yn pryderu am y sefyllfa.
Dim ond yn 2017 y cysylltwyd â’r heddlu.