Banc yn galw ar gwmnïau technoleg i ad-dalu dioddefwyr sgamiau arlein
Fe ddylai cwmnïau technoleg ad-dalu dioddefwyr sgamiau ar gyfryngau cymdeithasol yn ôl un banc cenedlaethol.
Daw'r alwad gan Barclays wrth i’r banc ryddhau ffigyrau newydd am y nifer o sgamiau sy’n digwydd ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod 88% o sgamiau, sy’n achosi dioddefwyr i golli o leiaf £1,000, yn dechrau ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl yr ymchwil diweddaraf, sgamiau prynu nwyddau sy’n cyfri am 2/3 o’r holl sgamiau arlein.
Dyma lle mae pobl yn prynu nwyddau a naill ai ddim yn eu derbyn, neu yn derbyn y nwyddau yn wahanol i’r ffordd cafon nhw eu hysbysebu.
Mae Barclays yn galw am fwy o weithredu i atal sgamiau o’r math yma.
Dim ond banciau sy’n gyrfifiol am ad-dalu dioddefwyr ar hyn o bryd.
Dylai atal sgamiau fod yn orfodol, yn enwedig i gwmnïau technoleg, yn ôl Barclays - ar hyn o bryd, dim ond mesurau gwirfoddol sydd yn eu lle gan y cwmnïau.
Mae’r banc hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i orfodi sefydliadau i gyhoeddi data sy’n ymwneud â sgamiau er mwyn dangos i ddefnyddwyr, o flaen llawn, y risg sy’n gysylltiedig â defnyddio’u platfformau.
Dywedodd Matt Hammerstein, Prif Swyddog Gweithredol Barclays UK: “Gyda cymaint o fywydau pobl bellach arlein, o gysylltu gyda ffrindiau a theulu, i siopa, mae’n bwysig bod pobl yn teimlo’n ddiogel ar y platfformau y maen nhw’n ei ddefnyddio.
“Mae ein data ni yn dangos bod platffromau technoleg, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, yn wraidd i rhan fwyaf o sgams.
“Er hyn, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth, na fframwaith reoleiddio, yn gorfodi’r sector dechnoleg i gefnogi dioddefwyr y troseddau hyn, fel sydd yn gymwys i fanciau.
“Yr unig ffordd i atal yr epeidemig hwn, yw i atal sgams o’i gwreiddiau, ac atal llif cronfeydd y troseddwyr.”
Llun: PA Media