'Dyma fy nychweliad adref': Dafydd Elis-Thomas i ail-ymuno â Phlaid Cymru

'Dyma fy nychweliad adref': Dafydd Elis-Thomas i ail-ymuno â Phlaid Cymru
Mae cyn-Lywydd y Senedd, Dafydd Elis-Thomas, wedi ailymuno â Phlaid Cymru, bron i saith mlynedd ar ôl iddo adael y blaid y bu’n ei harwain ar un adeg.
Mewn cyfweliad egsgliwsif gyda Newyddion ITV Cymru, mae’r Arglwydd Elis-Thomas yn dweud ei fod yn ystyried y symudiad fel ei “ddychweliad adref”, ac yn canmol “cyfeiriad gwahanol” y blaid o dan yr arweinydd newydd, Rhun ap Iorwerth.
Mae’r penderfyniad yn un arwyddocaol iawn.
Nôl yn 2016 ar ôl gadael, fe gyhuddodd e’r blaid o fod yn anfodlon i chwarae rôl ddifrifol yn ffurfio Llywodraeth Cymru am beidio gweithio gyda phleidiau eraill.
'Hyder yn y blaid'
Erbyn hyn, mae ganddo hyder yn safbwynt newydd y Blaid.
“Dw’i wedi cael argraff mor dda gan arweiniad newydd Rhun ap Iorwerth… ac yn meddwl yn uchel ohono fo, a dwi’n meddwl ei fod ei agwedd bresennol o yn rhoi cyfle newydd i Blaid Cymru i ddatblygu cefnogaeth ehangach a dw’i eisiau cefnogi hynny” meddai Dafydd.
Dywedodd ei fod yn “awyddus i ddangos parodrwydd” i gefnogi ap Iorwerth, a bod arweinydd sy’n “fwy agored i ennill cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol… yn bwysig i ddatblygiad y blaid yn ystod y blynyddoedd nesaf”.
O ddechrau’r cyfnod datganoli, roedd Dafydd Elis-Thomas yn ffigwr allweddol yng ngwleidyddiaeth y wlad. Fe oedd Llywydd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, ac fe weithiodd gydag uwch swyddogion Llywodraeth y DU i ddatblygu datganoli ymhellach nag y rhagwelwyd yn wreiddiol.
Fe gynrychiolodd Plaid Cymru am y tro cyntaf fel AS yn 1974, ac arweiniodd Plaid Cymru drwy gydol yr 1980au.
Beirniadu Leanne Wood
Ond, fe gafodd berthynas gythryblus gyda’r blaid, yn enwedig yn ystod arweiniad Leanne Wood, gan feirniadu hi’n gyhoeddus am wneud araith yn erbyn UKIP a strategaeth Etholiad Cyffredinol 2015.
Fe wynebodd lawer o feirniadaeth ei hun am ei benderfyniad i adael, gan gynnwys wrth yr arweinydd presennol. Dywedodd Rhun ap Iorwerth i BBC Cymru ar y pryd bod Elis-Thomas wedi “siomi llawer iawn” o bleidleiswyr.
Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas wedyn wedi sefyll fel Aelod Cynulliad annibynnol, ond yn 2017 daeth yn aelod o Lywodraeth Cymru, gan weithredu fel Dirprwy Weinidog Diwylliant i Carwyn Jones a Mark Drakeford.
Mewn cyfweliad egsgliwsif gydag ITV Cymru, dywedodd ei fod wedi gadael oherwydd “Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn bod pleidiau’r canol-chwith yn gweithio gyda’i gilydd bob amser i amddiffyn y sefydliad rhag y rhai a fyddai’n ceisio ei danseilio.”
“Yn y blaid… roedd cyfnod lle oedd yna bwyslais ar gywirdeb rhyw fath o genedlaetholdeb o ni’n ystyried bach yn hen ffasiwn, ond bellach y mae'r blaid ac agwedd Plaid Cymru yn swnio i mi, fod hi’n llawer mwy agored” meddai.
Er hyn, mae Dafydd Elis-Thomas wedi cydnabod y bydd rhai pobl ddim yn ei croesawi’n ôl, gan egluro “mae rhai pobl bob amser wedi bod yn anhapus gyda rhai o’r pethau rydw i wedi’u dweud.
“Ond oherwydd nad ydw i’n erlid unrhyw beth ar yr oedran hwn, dyma fy nychweliad adref.”