
‘Mae marwolaeth yn gyson yma’: Y Cymro sy’n ymladd ym myddin Wcráin
‘Mae marwolaeth yn gyson yma’: Y Cymro sy’n ymladd ym myddin Wcráin
“Mae marwolaeth yn beth cyson yma… a dyma beth sydd rhaid i’r Wcraniaid fyw gyda fo.”
Dyma eiriau un Cymro sydd wedi teithio o dde Cymru i ymladd ar y rheng-flaen gyda byddin Wcráin yn erbyn lluoedd Rwsia.
Yn ôl Jordan Davies sydd yn gyn-filwr Prydeinig, roedd y rhyfel yn Wcráin yn rhywbeth nad oedd modd iddo ei “anwybyddu” ac fe deithiodd i’r wlad i gynnig cymorth ar ôl i Rwsia ymosod yn Chwefror 2022.
Mae’r Swyddfa Dramor yn nodi bod teithio i Wcráin er mwyn ymladd neu i gynorthwyo eraill sy’n ymwneud â’r rhyfel yn drosedd, ac fe all unigolion gael eu herlyn ar ôl dychwelyd i Brydain.
Ond wrth siarad mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C dywedodd Mr Davies nad yw’r canlyniadau o gael ei gosbi yn flaenoriaeth iddo ar hyn o bryd.
“Fy mlaenoriaeth yw helpu i ennill y rhyfel yma. Ac os bydd fy ngwlad yn penderfynu’n hwyrach ymlaen y bydd yna gosb, fe wna i ddelio gyda hynny pan ddaw.”

Fe wnaeth Jordan Davies ymuno gyda’r Fyddin Brydeinig pan yn 16, ac mae wedi cael sawl profiad o ryfela cyn mynd i Wcráin.
Ond mae’n cyfaddef bod yr amgylchiadau yn Wcráin yn “hollol wahanol” i’r hyn yr oedd wedi ei brofi o’r blaen.
“Dych chi ddim yn gwybod os fyddwch chi’n dychwelyd adref,” meddai.
“Mae lefel y farwolaeth yma yn llawer iawn uwch na’r hyn mae unrhyw un ym Myddin Prydain wedi ei weld yn y 70 mlynedd ddiwethaf, yn fy marn i.
“Mae’n gyson, drwy’r amser, does dim ots os ydych mewn dinas ddiogel.”
‘Gwrth-ymosodiad’
Sut felly mae’r Cymro yn pwyso a mesur llwyddiant gwrth-ymosodiad hirddisgwyliedig diweddar Wcráin?
Mae prinder arfau ac offer yn her gyson a sylweddol yn erbyn lluoedd Rwsia, meddai, ond mae byddin Wcráin yn parhau i ennill tir ac mae hynny yn llwyddiant yn ôl y Cymro.
“Mae mor wahanol, rydym nawr yn brwydro'r gelyn wyneb yn wyneb. A dweud y gwir ni yw’r lleiafrif, mae gan y gelyn fwy o arfau ac arfau sydd yn cyrraedd yn bellach na rhai ni ac felly mae’n rhaid i’r holl ffordd o feddwl newid.
“Er ein bod wedi cipio rhai o’r trefi mawr, a chyrraedd y llinellau amddiffyn, rydym wedi gwthio ymlaen ac ymlaen. Ond rydym yn dal i siarad am fyddin Rwsia yn fan hyn, fydd na ddim llwyddiant ar raddfa fawr fydd yn arwain i’r Môr Du mewn deuddydd – fydd hyn ddim yn digwydd.
“Ond rydym yn gwthio’r Rwsiaid yn ôl.”
Ychwanegodd fod gallu’r Wcraniaid i ymladd yn ôl wedi ei weddnewid ers dechrau’r ymosodiad ar eu gwlad yn 2022.
“Doedd yr Wcraniaid erioed yn filwyr, roedden nhw’n ffermwyr, athrawon, meddygon gyda 'chydig iawn o hyfforddiant os o gwbl ar y dechrau – fe gawson nhw wn a gorchymyn i amddiffyn eu mamwlad.
“Ond yma mae meddylfryd y milwyr yn gwbl wahanol hefyd. Rwy’n teimlo’n fwy balch yn arddangos baner Wcráin ar fy iwnifform na baner Prydain.”

Ers cyrraedd Wcráin dros flwyddyn yn ôl, mae Jordan Davies wedi gwneud llawer o ffrindiau 'sydd fel ail deulu' iddo, meddai.
Ond mae hefyd wedi colli anwyliaid yn ystod y brwydro.
“Yn anffodus rwyf i wedi colli ffrindiau – dyna gost yr ymosodiad yma.
“Rwyf wedi colli ffrindiau o wledydd tramor ac Wcraniaid, rwyf wedi cario cyrff pobl bum munud ar ôl i fi fod yn siarad gyda nhw ddwytha’.
“Dwi wedi colli rhai o fy ffrindiau gorau, un o fy ffrindiau agos o America, roedd fel brawd i fi ac fe gafodd ei ladd mewn brwydr.
“Dyna sut mae bywyd yma, a dyma beth sydd rhaid i’r Wcraniaid fyw gyda fo.”

Er bod Mr Davies wedi cael croeso ac wedi teimlo diolch mawr gan bobl y wlad, mae hefyd yn ymwybodol bod eraill yn Wcráin yn amheus o’i benderfyniad a’i gymhellion dros ymuno gyda’r fyddin yno.
“Mae nhw’n meddwl pam fy mod i wedi gadael gwlad sy’n cael ei gweld fel un lle mae bywyd hawdd, i ddod yma i gymryd rhan yn y rhyfel?
“Maen nhw’n amheus gan nad oes neb wir wedi helpu Wcráin cyn hyn.
“Mae llawer o’r bobl leol yn ddiolchgar, ond mae rhai yn amheus. Eu geiriau cyntaf bob tro ar ôl deall fy mod yn dod o Gymru yw ‘Oh, Gareth Bale!’”
Yma o Hyd
Ac nid y cyfeiriad at Gareth Bale oedd yr unig atgof o Gymru i Jordan Davies draw yn Wcráin.
Roedd clywed y gân ‘Yma o Hyd’ mewn bar yn ninas Kyiv ar ôl bod yn ymladd ar y rheng-flaen yn brofiad bythgofiadwy iddo, meddai.
“Fe aethon ni i’r bar yma ac fe wnes i glywed alaw gyfarwydd, ac roeddwn i fel, ‘No way’ a ryw bum eiliad yn ddiweddarach roedd yn amlwg mai darn agoriadol ‘Yma o Hyd’ oedd yn cael ei chwarae.
“Fe godais o fy sedd yn syth a bloeddio hi mor uchel a mor falch ag y gallwn i. Fe es i draw i’r bar a siarad gyda’r perchennog. Fe wnes i ddweud fod y gân yn bwysig iawn i fy mhobl, i fy ngwlad, fy niwylliant.”
Gofynnodd Mr Davies iddo sut a pham yr oedd y gân yn cael ei chwarae mewn bar yn Kyiv?
“Fe ddywedodd o wrtha i: ‘Os wyt ti’n cymryd ystyr y gân hon a’i gosod yn sefyllfa Wcráin….’ Roedd y gân wedi ei gyffwrdd – er gwaethaf pawb a phopeth rydym yn dal yma.
“Ac mae hi’n wir i sefyllfa Wcráin. Felly roedd yn ei chwarae yn y bar er nad oedd neb yn ei hadnabod hi, roedd yn gwybod beth oedd ei hystyr.
“Mae hi’n chwip o gân. Roedd yn rhan fach o gartref i mi ac fe newidiodd ysbryd y noson – noson dda iawn.”

‘Y penderfyniad iawn’
Fe wnaeth Newyddion S4C ofyn i’r Swyddfa Dramor os y byddai milwyr fel Jordan Davies yn cael eu cosbi pan yn dychwelyd i Brydain.
Fe wnaeth llefarydd ein cyfeirio at y cyngor teithio sydd ar wefan y Swyddfa Dramor.
Mae’r wefan yn nodi bod dinasyddion Prydeinig sy’n ymladd yn Wcráin “wedi cael eu lladd neu eu dal” yno.
“Mae'r risg i fywyd, neu o gamdriniaeth, yn uchel. Bydd cymorth consylaidd yn yr amgylchiadau hyn yn gyfyngedig iawn.”
Ond i Jordan Davies, mae’n benderfynol ei fod wedi gwneud y dewis iawn pan adawodd i ymladd yn Wcráin.
“Fe fyddwn yn gwneud yr un penderfyniad fil o weithiau eto,” meddai wrth Newyddion S4C.