Hysbysiad cau i dafarn yng Ngheredigion am dorri rheolau Covid-19
Mae tafarn yng Ngheredigion yn gorfod cau am gyfnod o 28 diwrnod am dorri rheolau Covid-19.
Mae'r Ffostrasol Arms hefyd wedi derbyn dirwy o £2,000.
Daw hyn rai wythnosau wedi i'r dafarn dderbyn Hysbysiad Gwella Mangre gan Gyngor Sir Ceredigion.
Daeth yr Hysbysiad Cau Mangre i rym ddydd Gwener 28 Mai am 15:30.
Roedd y safle eisoes wedi derbyn hysbysiad cau am dorri rheolau Covid-19 yn Hydref 2020.
Dywedodd y Cyngor fod swyddogion Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi bod o amgylch y sir fel rhan o'u gwaith ar ddydd Llun 24 Mai 2021.
Tra oedd y swyddogion ar safle'r Ffostrasol Arms, fe ddaeth rhagor o achosion o ddiffyg cydymffurfio i'w sylw.
Pan ddychwelodd y swyddogion i'r dafarn ar 26 Mai, dywedodd llefarydd nad oedd tystiolaeth bod "mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ledaenu Covid-19 ar y safle".
Dychwelodd y tîm i'r dafarn ar ddydd Gwener 28 Mai gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys gan gyflwyno Hysbysiad Cau Mangre a Hysbysiad Cosb Benodedig.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion fod busnesau nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn derbyn "cyngor ac arweiniad" i ddechrau ond os bydd y rheoliadau'n cael eu torri'n gyson neu os mae'r toriad yn un difrifol, bydden nhw'n derbyn cosb fwy llym.
Nid oedd y Ffostrasol Arms am wneud sylw ar y mater.
Llun: Google Maps