Newyddion S4C

Dirwy i dafarn yng Ngheredigion am dorri rheolau Covid-19

14/05/2021
Google Street View

Mae tafarn yn Ffostrasol wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 a Hysbysiad Gwella Mangre ar ôl i gwsmeriaid gael eu darganfod yn yfed tu mewn i'r adeilad.

Roedd tafarn y Ffostrasol Arms wedi cael hysbysiad cau yn flaenorol gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd ym mis Hydref 2020 am dorri rheoliadau Covid-19.

Ddydd Gwener, 30 Ebrill roedd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Ceredigion yn cynnal patrolau ar y cyd â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys pan ddaethant o hyd i nifer o gwsmeriaid yn yfed y tu mewn i’r dafarn, yn groes i reoliadau coronafeirws.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Ceredigion nad oedd rheolau cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb yn cael eu dilyn yn y dafarn ar y pryd.

"Dim ond yr wythnos honno y llaciwyd y gofyniad i fusnesau lletygarwch aros ar gau er mwyn caniatáu i fusnesau megis tafarnau ailagor eu hardaloedd yn yr awyr agored.

"Felly, roedd yn hynod siomedig dod o hyd i fusnes yn diystyru diogelwch y cyhoedd a’r gyfraith yn llwyr drwy ganiatáu i rai o’i gwsmeriaid yfed dan do."

Ychwanegodd datganiad Cyngor Ceredigion: "O ganlyniad, cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig yn ogystal â Hysbysiad Gwella Mangre a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r busnes roi gwelliannau penodol ar waith er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle. 

"Yn ogystal, mae rhai o’r cwsmeriaid a gafodd eu canfod yn yfed y tu mewn i’r fangre wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £60 gan Heddlu Dyfed-Powys."

Llun: Google Street View

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.