
Hanes yr Eisteddfod yn Llŷn
Daeth y Brifwyl i Bwllheli am y tro cyntaf yn 1875, a chafwyd cychwyn gwlyb i’r ŵyl. Ond yn ôl papur newydd Y Dydd cliriodd y cymylau yn ystod y bore “ac yr oedd miloedd wedi dyfod yng nghyd".
Oherwydd fod Eisteddfodwyr yn hwyr yn cyrraedd pen eu taith y diwrnod hwnnw, roedd y pwyllgor gwaith dan bwysau i newid dipyn ar y rhaglen, gan nad oedd nifer mawr o’r rhai oedd yn cymeryd rhan wedi gallu bod yn bresenol yn y dechrau.
Erbyn dydd Mercher roedd pawb wedi cyrraedd, ac wedi gorymdaith y beirdd i’r babell “agorwyd y cyfarfod i sain yr utgorn” meddai’r ‘Herald Cymraeg’.
Wedi i gôr yr Eisteddfod ganu ‘Y Bluen Gymreig’ ac i’r Llywydd, yr Arglwydd Mostyn, roi ei anerchiad, ac Eos Morlais wedi canu’r gân eisteddfodol, aeth Mynyddog, yr arweinydd, ymlaen gyda’r rhaglen.
Rhoddwyd gwobr o ddeg swllt a medal arian i Mr H Jones, Bodfuan am y fasged orau, a’r wobr am y ‘Welsh Tweed’ gorau i Mr W Hughes, Talysarnau. Ymhlith cystadleuathau eraill oedd cyfieithu o’r Saesneg, unawd ar y crwth a chreu cwilt clytwaith!

Baldwin a Lloyd George ym Mhwllheli
Bu’n rhaid disgwyl am hanner canrif cyn i’r Brifwyl ddychwelyd i Lŷn, ac yn 1925 cafodd cynulleidfaoedd ledled Prydain gyfle i fwynhau’r orymdaith agoriadol yn y sinema, gan fod camerâu Pathé News wedi ffilmio’r cyfan.
Roedd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin i fod yn bresennol ond methodd ddod i Bwllheli oherwydd trafodaethau pwysig yn Nhŷ’r Cyffredin.
Methodd y cyn-Brif Weinidog, David LloydGeorge fod yn bresennol ddechrau’r wythnos am yr un rheswm, ond teithiodd dros nos i fod yno erbyn bore Gwener i annerch y gynulleidfa yn ôl ei arfer.
Allan o 33 o ymgeiswyr, Wil Ifan gipiodd y goron, a hynny am ysgrifennu cerdd heb fod yn hwy na 700 llinell ar y testun ‘Bro fy Mebyd’ neu ‘Plant y Dydd’.
Un arall ddaeth i’r Eisteddfod oedd y Frenhines Marie o Romania. Cafodd ei hurddo yng Ngorsedd y Beirdd dan yr enw barddol Marie Gwalia, ac arhosodd ar y llwyfan i wylio seremoni’r Gadair: roedd 13 o feirdd wedi ymgeisio ar y testun ‘Cantre’r Gwaelod’ neu ‘Oes Tangnefedd?’, a cherdd Dewi Morgan o Aberystwyth oedd yn rhagori.
Derbyniodd ei wobr ariannol o £20 gan y Frenhines Marie.

Sefydlu Plaid Cymru
Yn ystod yr Eisteddfod sefydlwyd ‘Plaid Genedlaethol’, sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, mewn cyfarfod yn Neuadd Maesgwyn, Pwllheli.
Roedd mewn gwirionedd yn uniad o ddau fudiad: Byddin Ymreolwyr Cymru (The Welsh Home Rule Army) a’r Mudiad Cymreig (The Welsh Movement) a’i phrif amcanion, yn ôl adroddiadau’r cyfnod, oedd “hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac annibyniaeth wleidyddol y genedl Gymreig”.
Tywynnodd yr haul drwy’r wythnos pan ddychwelodd yr Eisteddfod i Bwllheli ym 1955. Yn ôl y ‘Liverpool Echo’, “Ychydig o bobl yn fyw heddiw sy’n gallu cofio Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi mwynhau wythnos o heulwen ac awyr ddigwmwl fel sydd wedi gwenu ar Bwllheli drwy gydol yr wythnos gofiadwy hon.”
Yr Eisteddfod rhataf ers blynyddoedd
Yn ôl rhai adroddiadau, Eisteddfod 1955 oedd y Brifwyl rhataf i’w threfnu ers blynyddoedd gyda £20,000 o’r gost o £38,000 yn cael ei godi’n lleol cyn y diwrnod cyntaf.
Cliriwyd y costau’n llwyr wedyn, gyda thorfeydd mawr bob dydd.
Elerydd, neu’r Parch WJ Gruffydd enillodd y Goron am ei gerdd yn galaru am farwolaeth yr hen ffordd Gymreig o fyw yn ei fro enedigol yn Sir Aberteifi. Cardi arall enillodd y Gadair, sef Gwilym Ceri Jones, a aned yn Rhydlewis.
Cafwyd 16 ymgais ar gyfer awdl heb fod yn hwy na 350 llinell ar y testun ‘Gwrtheyrn’, ac yn ôl y ‘Western Mail’ safodd llawer o’r dyrfa fawr o 12,000 i geisio cael cipolwg ar y bardd buddugol. Roedd yn gyfarwydd i lawer yn y gynulleidfa gan iddo ennill dros 40 o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol yn ne Cymru.
Ymhlith y cystadlaethau eraill, Richard Henry Rees o Bennal ger Machynlleth oedd y cyntaf erioed i ennill y Rhuban Glas ddwywaith. Daeth y baswr yn gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1952 pan ganodd ‘Y Dymestl’, a bu’n canu gyda Opera Cenedlaethol Cymru am wyth mlynedd yn dilyn ei lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ond cafwyd neges bur gyfarwydd yn adroddiad y ‘Liverpool Echo’ o’r Eisteddfod: “Doedd dim cais o Ogledd Cymru ar gyfer cystadleuaeth y prif gôr meibion, ac roedd gan Gôr Orpheus Treforys y cyfan yn eu ffordd eu hunain.”
Bydd hi’n stori wahanol iawn eleni, gyda nifer o gorau tenor | bas o’r gogledd yn cystadlu, ond bydd rhaid aros tan 12 Awst i weld pa gôr ddaw i’r brig wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd i ardal Pwllheli.
Dyma erthygl sy’n rhan o gyfres nodwedd sydd wedi eu paratoi ar gyfer rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae awduron yr erthyglau yn cynnwys Eryl Crump, Siân Teifi, Mared Llywelyn a Twm Herd.