Newyddion S4C

Nigel Owens i ddyfarnu eto mewn gêm rygbi arbennig

S4C

Mae'r cyn-ddyfarnwr rygbi a'r darlledwr Nigel Owens wedi cyhoeddi y bydd yn chwythu ei chwiban eto mewn gêm rygbi arbennig - bedair blynedd ar ôl iddo ymddeol.

Dywedodd y bydd yn dyfarnu mewn gêm rhwng Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan a Chlwb Rygbi Cymry Llundain yn ystod y penwythnos sydd i ddod.

Mae'r gêm yn rhan o ddathliadau Clwb Rygbi Llambed yn 150 oed eleni.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Nigel Owens ei fod yn gobeithio fod ei goesau'n mynd i bara'r 80 munud o chwarae.

Mae Owens yn gawr ymysg dyfarnwyr y gamp, ac yn cael ei ystyried yn un o'r goreuon - a'r tecaf - i redeg ar gae i ddyfarnu erioed.

Dechreuodd ei yrfa yn 16 oed gan ddyfarnu mewn gêm Ewropeaidd am y tro cyntaf yn 2001.

Fe wnaeth ymddeol o ddyfarnu gemau rhyngwladol ym mis Rhagfyr 2020, ychydig ar ôl dyfarnu ei 100fed gêm ryngwladol.

Mae'n cael ei edmygu nid yn unig am ei yrfa rygbi ond hefyd am ei onestrwydd wrth drafod ei fywyd preifat yn agored fel dyn hoyw ym myd chwaraeon.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.