Joe Allen yn ffyddiog gall Cymru 'greu hanes unwaith eto'

Newyddion S4C 01/06/2021

Joe Allen yn ffyddiog gall Cymru 'greu hanes unwaith eto'

Ar ôl cyrraedd y rownd gynderfynol yn Euro 2016 mae Joe Allen yn ffyddiog gall Cymru "greu hanes unwaith eto".

Cyn i'r gystadleuaeth gael ei gohirio'r llynedd, cafodd y chwaraewr canol cae anaf difrifol oedd yn golygu na fyddai ar gael i chwarae i Gymru yn y gystadleuaeth yn wreiddiol.

"Odd hwnna'n siom ond diolch byth odd digon o amser i cael fy hunan mewn i siâp ac yn ffit ar gyfer gyntaf y camp i ymarfer gyda digon o amser cyn y gêm gyntaf, felly erbyn hyn popeth yn iawn," meddai Allen.

"Dwi 'di ymarfer am cwpl o wythnosau nawr heb problemau felly ie gobeithio gai siawns i chwarae yn y gemau sydd i ddod.

"Collon ni allan ar y siawns o fynd i Cwpan y Byd, odd hwnna'n siom.

"Ie ond y siawns i neud e unwaith eto, creu hanes unwaith eto, neu i fod yn rhan o rhywbeth anhygoel, dyna beth sydd yn gwthio ni ymlaen i ceisio chwarae yn dda ac i berfformio."

Bydd Cymru yn chwarae mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc nos Fercher (2 Mehefin) ac Albania nos Sadwrn (5 Mehefin).

Bydden nhw wedyn yn herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament a oedd i fod i gael ei gynnal y llynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.