Jade Jones yn mynd i'r Gemau Olympaidd yn Tokyo

Mae’r Gymraes Jade Jones wedi’i henwi yng ngharfan Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo.
Bydd hi’n arwain ymdrechion y garfan taekwondo wrth iddi fynd am drydedd fedal aur yn olynol yn y categori -57kg, yn dilyn ei llwyddiant yn Llundain yn 2012 a Rio de Janeiro yn 2016.