Anhrefn Trelái: 12 person arall wedi eu harestio
Mae 12 person arall wedi eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus ar ôl taith goffa i gofio am ddau fachgen fu farw yn Nhrelái.
Fe wnaeth marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, arwain at anhrefn yng Nghaerdydd, gyda cheir yn cael eu rhoi ar dân ac eiddo yn cael ei difrodi, ar ôl iddyn nhw gael eu lladd mewn gwrthdrawiad ar 22 Mai.
Cafodd y daith goffa ei threfnu ar 10 Mehefin ac roedd yn cynnwys nifer o feiciau a cherbydau eraill yn teithio rhwng Y Barri a Chaerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod 23 o gerbydau, gan gynnwys 11 beic cwad a dau gerbyd ar gyfer bob tir, wedi cael eu meddiannu o uned ar Heol Wilson yn Nhrelái ar 16 Mehefin.
Cafodd dau ddyn 28 a 41 oed eu harestio ar amheuaeth o drin nwyddau wedi'u dwyn a throseddau eraill, ac maent bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymholiadau barhau.
Bydd 11 arall yn derbyn Hysbysiad o Fwriad i Erlyn (NIP) am gyflawni troseddau modur, a bydd tri arall yn eu derbyn er mwyn gofyn iddyn nhw gadarnhau pwy oedd yn defnyddio eu cerbyd ar adeg y troseddau a gyflawnwyd yn y digwyddiad.