'Ar y dibyn': Pryder bydd angen gohirio llacio mawr Lloegr

Mae un o ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhybuddio y gallai fod angen gohirio llacio'r cyfyngiadau yn Lloegr.
Dan gynllun llacio Llywodraeth y DU, ni fyddai angen ymbellhau'n gymdeithasol wedi 21 Mehefin ar y cynharaf, yn ôl MailOnline.
Ond, mae'r Athro Susan Michie, sy'n aelod o un o bwyllgorau SAGE yn meddwl y bydd angen gohirio'r llacio 'am sawl wythnos' oherwydd cynnydd yn y nifer o achosion o'r amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India.
Dywedodd y seicolegydd iechyd y gallai achosion gynyddu yn yr un modd â'r cyfnod cyn y Nadolig, neu gallai'r sefyllfa gael ei chadw dan reolaeth.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.