Gwahaniaethu ar sail hil, rhyw a dosbarth yn ‘gyffredin’ mewn criced medd adroddiad

27/06/2023
Criced

Mae hiliaeth, rhywiaeth a gwahaniaethu ar sail dosbarth yn gyffredin mewn criced yng Nghymru a Lloegr yn ôl adroddiad newydd.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi ymddiheuro ar ôl derbyn yr adroddiad gan y Comisiwn Annibynnol o Blaid Cyfartaledd mewn Criced.

Roedd dros 4,000 o bobol wedi cyfrannu tystiolaeth i’r adroddiad a dros hanner ohonyn nhw wedi profi camwahaniaethu.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr Richard Thompson ei fod “yn sicr yn ymddiheuro” yn dilyn yr adroddiad.

“Roedd darllen y straeon go iawn rheini yn sicr yn sioc,” meddai.

“Mae’n sicr na ddylai pobol fod wedi cael y profiadau rheini.”

'Neb'

Dywedodd yr adroddiad bod hiliaeth yn rhan amlwg o griced, bod menywod yn wynebu rhywiaeth yn aml, ac nad oedd y system gwynion yn gweithredu’n iawn.

Dywedodd un chwaraewr o gefndir Pacistanaidd wrth yr adroddiad yn ddienw ei fod wedi dioddef “abiws a chasineb” wrth chwarae criced.

“Roedd [fy nghyd chwaraewyr] wedi tywallt alcohol arna i," meddai.

"Roedden nhw wedi taflu brechdanau bacwn arna i.

“Rydw i wedi byw gyda hynny a byth wedi sôn gair wrth neb.”

'Safbwynt clir'

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Criced Cymru a Chriced Morgannwg ar y cyd: “Derbyniodd y Siroedd Dosbarth Cyntaf a’r Byrddau Criced Sirol sy’n rhan o Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) gopi o adroddiad y Comisiwn Annibynnol dros Gydraddoldeb mewn Criced (ICEC) ar yr un pryd â’r cyhoedd, pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi am y tro cyntaf heddiw. 

“Ry'n ni felly yn darllen yr adroddiad a’i argymhellion am y tro cyntaf heddiw ac yn blaenoriaethu dealltwriaeth lawn o’r awgrymiadau. 

“Mae’n amlwg bod yr adroddiad yn cynnwys gwersi mae’n rhaid i ni eu hystyried a gweithredu er mwyn gwella ein harlwy a’r gwasanaeth rydym yn cynnig i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, ac i adfer neu wella ymddiried a hyder mewn rhai o’m systemau, strwythurau a diwylliant o fewn ein chwaraeon. 

“Mae gennym ni safbwynt clir – nad oes unrhyw le i wahaniaethu yng nghriced yng Nghymru, nac yn y gymdeithas Gymreig, ac rydym yn cymryd honiadau o wahaniaethu o ddifri ar bob achlysur. 

“Rydym eisiau sicrhau bod pob unigolyn yn ddeall y gall unrhyw un adrodd am eu profiadau o wahaniaethu gan wybod y byddwn yn gweithredu’n briodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.