‘Roedd gan Frankie’r holl freuddwydion - mae’n haeddu’r byd’
‘Roedd gan Frankie’r holl freuddwydion - mae’n haeddu’r byd’
Mae un o ffrindiau gorau dyn ifanc o Fôn sydd wedi bod ar goll ers bron i fis wedi erfyn ar bobl sydd yn gwybod unrhyw beth i rannu'r wybodaeth gyda'r heddlu.
Mae Frantisek "Frankie" Morris, 18 o Landegfan, Sir Fôn wedi bod ar goll ers 2 Mai.
Cafodd ei weld ddiwethaf ar luniau camera cylch cyfyng tafarn y Vaynol Arms, Pentir, yn gwthio ei feic ychydig wedi 13.00. Cafwyd hyd i’r beic yn ddiweddarach.
Wrth ddisgrifio ei ffrind, dywedodd Llawen Haf Pierce fod gan Frankie "freuddwydion" am y dyfodol.
"Mae'n hogyn really neis, mae'n haeddu'r byd," dywedodd Llawen.
"Ag oedd gyno fo i gyd o'r plans 'ma, breuddwydion 'ma ag on ni'n meddwl oedd o am neud o ag, nath o ddim.
"So, ie ma'n anodd.
"Dwi 'di bod yn ffrindia hefo fo ers odda ni’n fabi, ag - ia mae'n anodd oherwydd tro cynta nath o ddod drosodd o Czech, mond fi a hogan arall oedd ffrindia fo, doedd neb arall yn nabod o ar y pryd, a dwi'n cofio nath o ddod drosodd ag oedd o mor gyffrous i weld ni.
"Oedd o'n hwylus ofnadwy, oedd o wrth ei fodd yn mynd o gwmpas y mynyddoedd. Oedd o'n hoffi darganfod llefydd newydd."
Mae Llawen wedi disgrifio'r cyfnod ers i Frankie fynd ar goll fel hunllef.
"Dwi'n cofio nath mam fi gyrru text i fi pan on ni ar y ffordd i'r coleg yn dweud: 'Oh, Frankie might be missing. You might want to share this post on Facebook'," ychwanegodd.
"Oni'n shocked ond o ni'n meddwl, fysa fo ddim yn ddrwg oherwydd fysa Frankie ddim yn mynd i ffwrdd fel 'na.
"So nes i edrych ar Facebook ac oedd 'na fatha posts 'ma yn deud 'Search for a missing boy' ag on i 'tha reit ocê, so on ni'n rhannu bob dim ar Facebook a Instagram a bob dim, oherwydd dwi'n ffrindia' hefo fo.
"Ti 'sho ffeindio dy ffrind dwyt. Ond do' ni ddim yn meddwl 'sa fo'n cario mlaen mor hir a hwn. O ni'n meddwl fysa nhw di ffeindio fo'n fyw.
"Ti'm yn siwr be' i goelio dim mwy oherwydd ma' 'na mor gymaint o possibilities."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwilio am wybodaeth.