
Dim gobaith caneri: Caernarfon yn colli'n erbyn Y Drenewydd
Dim gobaith caneri: Caernarfon yn colli'n erbyn Y Drenewydd
Roedd cefnogwyr tîm pêl-droed Caernarfon wedi ymgynnull tu allan i'r cae chwarae i wylio'r gêm dyngedfennol prynhawn Sadwrn.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gyhoeddi na fyddai modd caniatáu nifer cyfyngedig o gefnogwyr i fynychu'r gêm ar fyr rybudd o achos cyfyngiadau coronafeirws.
Roedd Clwb Pêl-droed Caernarfon yn wynebu'r Drenewydd ar yr Oval yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru.
Ond siom oedd y canlyniad i gefnogwyr y tîm cartref, gyda'r ymwelwyr yn fuddugol - 3-5 oedd y sgôr ar y chwiban olaf. Bydd Y Drenewydd yn chwarae yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Roedd siom wedi bod na fyddai cefnogwyr yn cael bod yn bresennol i wylio'r gêm yn fyw, gyda rhai eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i lacio'r cyfyngiadau.
Yn flaenorol, dywedodd Paul Evans, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, wrth raglen Newyddion S4C: "Mae'n gêm enfawr. Gêm bwysicaf mwy na thebyg yn hanes y clwb.

"'Da ni erioed 'di gael y fraint o chwarae yn Ewrop a chynrychioli'r Cymry yn Ewrop o'r blaen felly, bysa cael neud hynna yn wych i ni", ychwanegodd.
"Y pechod ydy wrth gwrs bod y cefnogwyr ddim yn cael mynd i'r cae i greu hwb i'r hogiau felly 'de.

"Be' sy'n siom ydy bod yr Mr Drakeford a'r llywodraeth yn edrych ar y gêm fel gêm 'grass roots', ond dydy ddim. Mae Uwch Gynghrair Cymru yn elit".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y byddwn yn ystyried symud i lefel rhybudd un ar adeg yr adolygiad tair wythnos nesaf ar ddechrau Mehefin, os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol".
Ychwanegodd y llefarydd y byddai hyn yn galluogi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau mwy wedi eu trefnu, "wedi eu harwain gan y rhaglen o ddigwyddiadau peilot, sy'n digwydd ar hyn o bryd".
