Al Lewis: Sul y Tadau'n brofiad 'chwerw-felys' wrth ddathlu a chofio
Al Lewis: Sul y Tadau'n brofiad 'chwerw-felys' wrth ddathlu a chofio
Mae Sul y Tadau yn ddiwrnod i gofio ac i greu atgofion newydd, ac un fydd yn gwneud hynny ddydd Sul yw'r cerddor Al Lewis.
Mae Al Lewis yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, Hannah, a'u plant Mabli sy'n bump, Martha sy'n ddwy, a Tedi sy'n chwech wythnos oed.
Er y bydd yn dathlu gyda'i deulu ifanc, fe fydd hefyd yn ddiwrnod anodd i Al, gan iddo golli ei dad pan yr oedd yn 21 oed.
“Ma’ Sul y Tadau, ma’ pwysigrwydd y diwrnod wedi newid i fi ers i fi ddod yn dad," meddai wrth Newyddion S4C.
"Cyn i fi ddod yn dad, o’dd o’n ddiwrnod eitha chwerw-felys oherwydd fy mhrofiad i o golli Dad a wedyn o’dd o’n eithaf anodd am amser hir gweld y cardia’ a gweld pobl ar social media yn rhannu eu diwrnodia nhw efo’u tada’ nhw.
"Weithia, o’n i’n teimlo o’dd o’n haws i jyst rhoi ffôn fi off am y diwrnod, i beidio gorfod delio efo hynna."
'Mwynhau'r profiad'
Gan ei fod bellach yn dad ei hun, mae Al yn teimlo ei fod yn gallu "edrych ymlaen" at y diwrnod.
"Ond rwan, gan ‘mod i’n dad, ma’r sefyllfa ‘di troi yn gyfan gwbl a dwi’n medru edrych ymlaen at y diwrnod a mwynhau’r profiad o fod efo’r genod," meddau.
"Ma’ dal yn ddiwrnod eitha chwerw-felys oherwydd dydi fy nhad i ddim yma i rannu fo efo fi, ond eto, dwi’n medru cadw’r ochr bositif a meddwl am y genod a cadw’r atgofion melys o Dad hefyd yn fy nghof."
Mae bod yn dad yn newid perspectif rhywun ar fywyd, yn ôl Al.
"Dwi’n meddwl y peth mwya’ am fod yn dad ydy mae o’n newid dy ffordd di o edrych ar fywyd, a ma’n neud i ti gymryd mwy o ystyr allan o bob diwrnod a sylweddoli yr hen cliché ‘na ma’ pawb yn ddeud ‘O, ma’ nhw’n tyfu fyny mor sydyn’" meddai.
"Dwi’n meddwl pan ti’n ifanc, a ma’ rhywun yn deud hynna amdana chdi, ti’n meddwl ‘O ia, ma’ nhw jyst yn bobl hen’, ond wedyn pan ti’n dod yn riant dy hun, ti yn sylweddoli faint mor sydyn ma’ amser yn mynd a bod y cyfnod bach ‘na lle ma’ nhw yn ifanc, yn mynd yn sydyn a ma’n bwysig gwerthfawrogi hynna."
Rhywbeth sydd yn rhoi cysur mawr iddo hefyd ydy ei fod yn cael ei atgoffa o'i dad drwy ei blant.
"Dwi’n meddwl y peth arall ma’ bod yn riant yn neud i rywun sylweddoli ydy fod bywyd ddim jyst amdan chi a bod bywyd yn cario ni ‘mlaen a bod y plant yn rhan ohona chi hefyd, fel odda chi’n rhan o’ch rhieni chi, a felly ma’ hynna ‘di bod yn gysur i fi ydi drwy gweld ryw ddarna’ o Dad ynddyn nhw a sylweddoli bod y cylch bywyd yn cario yn ei flaen a ma’ hynna yn gysur hefyd," meddai.
Mae creadigrwydd yn bwysig iawn i'r cerddor, ac wrth ddelio gyda galar dros y blynyddoedd, fe gychwynnodd bodlediad o'r enw Feels like Healing er mwyn trafod colled a galar yn agored.
"Dwi’n meddwl bod o’n hynod o bwysig bod y drafodaeth am galar yn gyhoeddus oherwydd mae o’n rywbeth ‘dan ni’n mynd drwydda fo yn fewnol yn ein pennau ni’n hunain," meddai.
"Y peth o’n i isio bwysleisio oedd bod creadigrwydd ‘di bod yn hynod o fuddiol i fi, a falle bod ‘na bobl allan yna fedrith ffeindio’r positif drwy greu rwbath allan o’u galar so dyna oedd y pwrpas i fi o siarad amdan y peth a ffeindio pobl eraill sydd ‘di neud yr un peth. Sydyn ma’ rhywun yn sylweddoli wrth agor y trafodaeth, cyn gymaint o bobl sy’n teimlo’r un peth."
Bydd Al yn treulio'r diwrnod gyda Hannah a'r plant, ac yn gobeithio cael ei sboelio.
"Dwi ddim yn gwbo’ pa sypreis ma' gen Mabli a Martha i fi dydd Sul ond ma’ nhw wedi bod yn deud bo’ ‘na ryw gacen falle, dwi ddim yn gwbo’, ond dwi ‘di clywed hefyd falle fyddai’n cael brecwast yn gwely, pwy a ŵyr," meddai.
"Ond dwi’n edrych ymlaen, ma’ nhw wedi cyrraedd yr oedran ‘na wan lle ma’ nhw’n licio helpu Mam, a helpu Mam i neud rwbath neis felly dwi’n edrych ymlaen."