Y Gymraes Jessica Robinson yn cyrraedd ffeinal cystadleuaeth Canwr y Byd
Mae’r Gymraes Jessica Robinson wedi cyrraedd ffeinal cystadleuaeth Canwr y Byd 2023.
Daw Ms Robinson, 32 oed yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Fe ddaeth Ms Robinson i’r brig wrth gystadlu yn rownd 2 y gystadleuaeth nos Lun yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Mae tair gwobr ar gael yn y gystadleuaeth, sef y Brif Wobr a theitl ‘Canwr y Byd’, Gwobr y Gân a Gwobr y Gynulleidfa.
Fe wnaeth Ms Robisnon ennill Cystadleuaeth Cantorion Cymreig 2022 ym mis Rhagfyr y llynedd gan sicrhau lle yng nghystadleuaeth Canwr y Byd 2023.
Er bod Ms Robinson yn adnabyddus fel cantores broffesiynol erbyn hyn, i lawer mae hi’n cael ei chofio am ei llwyddiant mewn Eisteddfodau yng Nghymru yn cynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd , Genedlaethol ac Eisteddfodau lleol.
A chyn perfformio dywedodd bod ei dyled yn fawr iawn i'r Eisteddfodau hynny.
Caiff perfformiadau ar gyfer y Brif Wobr eu perfformio gyda cherddorfa. Mae dwy gerddorfa yn rhan o’r gystadleuaeth eleni sef Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae Gwobr y Gân yn cael ei rhoi am berfformiad personol o rai o ganeuon Lieder a chelfyddydol i gyfeiliant piano yn unig.
Bydd ffeinal cystadleuaeth Canwr y Byd 2023 yn cael ei darlledu ar BBC Two Wales a BBC Four ar 18 o Fehefin.

