Newyddion S4C

Prifysgol Bangor yn lansio ap newydd i 'hwyluso ymchwil i ieithoedd lleiafrifol'

11/06/2023
Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi lansio ap newydd er mwyn "hwyluso ymchwil i ieithoedd lleiafrifol". 

Cafodd yr ap ei ddatblygu gan dîm ymchwil Agweddau at Iaith sydd o fewn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau y brifysgol.

Mae'r ap o'r enw Cynorthwyydd Ymchwil L'ART yn helpu ymchwilwyr i gasglu data am boblogaethau dwyieithog sydd yn siarad iaith leiafrifol neu ranbarthol ac sydd hefyd yn siarad iaith fwyafrifol.

Fe wnaeth y tîm ddarganfod  fod dulliau ar gyfer casglu data ar ddwyieithrwydd yn parhau i fod ar bapur yn bennaf, a bod yr ychydig iawn o ddulliau digidol oedd ar gael yn cyfyngu'n fawr ar eu gallu.

Dywedodd y cyd-ddatblygwr Dr Marco Tamburelli o Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor: "Ein nod oedd creu dull a fyddai’n gwneud ymchwil mewn ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn hawdd i’w efelychu, yn fwy hygyrch ac yn fwy effeithlon.

"Gyda’r Cynorthwyydd Ymchwil L'ART, rydym yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni hyn.

"Rydw i, datblygwr arweiniol yr ap Florian Breit ac Ianto Gruffydd a arweiniodd y profion maes yn gyffrous i rannu’r dull newydd cyffrous hwn gydag ymchwilwyr ledled y byd drwy ei wneud yn god agored ac am ddim, a gobeithiwn y bydd yn cyfrannu at hyrwyddo ymchwil ym maes ieithyddiaeth."

'Cyffrous'

Cafodd yr ap ei greu fel rhan o brosiect ymchwil sydd wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). 

Mae'r cyngor yn ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yng Nghymru, Lombardi yn Yr Eidal a'r gymuned Almaeneg yn Nwyrain Gwlad Belg. 

Mae'r ap eisoes wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ymchwilwyr yn cynnwys Dr Cynog Prys, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

"Mae deall agweddau at iaith cymunedau ieithoedd lleiafrifol yn hollbwysig er mwyn cadw a hyrwyddo’r ieithoedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol," meddai.

“Mae cael pecyn cymorth digidol sy’n hwyluso casglu, storio a throsglwyddo data ymchwil yn ddatblygiad hynod gyffrous. Rwy’n hyderus y bydd cymunedau iaith ledled y byd yn defnyddio’r adnoddau gwych hyn gan gynnwys myfyrwyr ac ymchwilwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd."

Ar hyn o bryd, mae'r ap ar gael yn y Gymraeg, Saesneg, Almaeneg, Groeg ac Eidaleg. 

Dywed datblygwyr yr ap bod "potensial" iddo gael ei ddefnyddio fel "dull addysgu yn enwedig mewn perthynas ag ymchwil traethawd hir".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.