‘Mae gan mam lwmp’: Awdur yn cyhoeddi llyfr Cymraeg i helpu plant i ddeall canser
‘Mae gan mam lwmp’: Awdur yn cyhoeddi llyfr Cymraeg i helpu plant i ddeall canser
‘Dwi’n credu mai beth sy’n bwysig ydi bod yn onest efo’r plant,” meddai Simone Baldwin.
Yn 2017 cafodd yr awdur o Landudno ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd a bu’n rhaid iddi geisio dod o hyd i’r ffordd orau o esbonio hynny i’w mab oedd yn chwech oed ar y pryd, Sam.
Y llynedd fe wnaeth hi ysgrifennu llyfr i helpu teuluoedd eraill sy’n ymdopi â’r un sefyllfa, a nawr mae’n cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg hefyd.
Dywedodd Simone Baldwin ei bod hi’n credu ei fod yn bwysig i blant sy’n siarad Cymraeg gael yr un adnodd yn eu hiaith nhw hefyd.
Bwriad Mae gan Mam Lwmp yw esbonio diagnosis tiwmor gan ddefnyddio iaith a lluniau sydd yn hawdd i blant i’w ddeall, meddai.
Dywedodd Ms Baldwin sy’n lysfam i ddau blentyn hŷn yn ogystal a Sam, ei bod hi eisiau “dechrau sgwrs” rhwng rhieni a’u plant.
“Ond doeddwn i ddim eisiau iddo ddyfalu beth oedd yn digwydd neu glywed snippets gan bobol eraill,” meddai.
“Pan oeddwn i’n chwilio am help i esbonio pethau i Sam, nid oedd unrhyw beth addas felly penderfynais i greu llyfr i gefnogi eraill fel fi.”
‘Dechrau sgwrs’
Gan gydweithio gyda’r darlunydd Caroline Eames Hughes, mae’n gobeithio y byddai’r defnydd o luniau a geirfa benodol yn gysur i blant.
Ychwanegodd: “Ro’n i angen rhywbeth i helpu esbonio fel – ‘Somebody else is picking you up from school today, Sam, achos mae gen i sgan’.
“Ac wedyn ro’n i angen llun efo MRI machine a dwi wedi chwilio am llun o’r peiriant sgan, and they looked so clinical and white, and I didn’t want to show him it,” meddai.
Yn ddysgwr Cymraeg sydd yn dod o Loegr yn wreiddiol, roedd Ms Baldwin yn benderfynol o sicrhau cymorth i bobl yn eu mamiaith ac fe gafodd ei llyfr ei haddasu i’r Gymraeg gan Rhys Iorwerth.
“Pan ti angen cael dy gefnogi, mae’n bwysig cael cymorth yn eich iaith gyntaf a dwi’n byw yng Nghymru,” meddai.
“Dwi’n credu mae’n bwysig cael y cymorth yn eich iaith gyntaf yng Nghymru.”
Canmol
Mae’r llyfr wedi derbyn canmoliaeth gan yr elusen Brain Tumour Research ac wedi ei gynnwys fel rhan o’i restr darllen fel adnodd i helpu pobl sydd wedi derbyn deiagnosis tebyg i Ms Baldwin.
Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: “Ry’n ni’n clywed gan nifer o gleifion sydd wedi dioddef o ddeiagnosis tiwmor a’r effaith difrifol gellir cael ar eu hanwyliad, yn enwedig pan mae’r claf yn rhiant.
“Ry’n ni’n gobeithio y bydd llyfr Simone yn cymorth i bobl mewn sefyllfa debyg.
“Yn anffodus, mae un o bob tri pherson yn ‘nabod rhywun sydd wedi’u heffeithio gan diwmor ar yr ymennydd.”