Y cyn Aelod Seneddol Llew Smith wedi marw yn 77 oed

Mae Llew Smith, cyn Aelod Seneddol y Blaid Lafur, wedi marw yn 77 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Roedd yn cynrychioli etholaeth Blaenau Gwent yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 1992 a 2005, ac wedi dioddef o ganser ers tro.
Mr Smith oedd olynydd cyn-arweinydd y Blaid Lafur Michael Foot fel AS Blaenau Gwent, yn ôl ITV Cymru.
Roedd hefyd yn Aelod o Senedd Ewrop ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru rhwng 1984 a 1994.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: ITV Cymru