Newyddion S4C

Matt Hancock yn gwadu honiadau Dominic Cummings

Sky News 27/05/2021
Matt Hancock

Mae Matt Hancock wedi gwadu honiadau gan Dominic Cummings iddo ddweud celwydd am y pandemig.

Mae Ysgrifennydd Iechyd y DU yn amddifyfn ei hun yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau yn dilyn cyfres o gyhuddiadau yn ei erbyn gan gyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog. 

Dywedodd Mr Hancock: "Mae'r honiadau o gyflwynwyd ddoe... yn honiadau difrifol, ac rwy'n croesawu'r cyfle i ddod i'r tŷ i gyflwyno yn ffurfiol ar gofnod nad yw'r honiadau di-sail hyn ynglŷn â gonestrwydd yn wir, a fy mod wedi bod yn onest gyda phobl yn gyhoeddus ac yn breifat drwy'r amser."

Cyflwynodd Dominic Cummings dystiolaeth yn ystod ymchwiliad annibynnol i ymateb y llywodraeth i’r pandemig ddydd Mercher, gan gyhuddo Mr Hancock o fod yn anaddas i wneud ei waith, ac y dylai fod wedi colli ei waith am "ddweud celwydd" ynglŷn â Covid-19. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: Parliament TV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.