Mark Drakeford yn addo cynllun cymunedol ar ôl ‘trawma’ Trelái

Mae’r Prif Weinidog wedi addo creu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái ar ôl wythnos o “drawma” i'r gymuned yno.
Daw wedi i Mark Drakeford gadeirio cyfarfod rhwng swyddogion cyhoeddus a chynrychiolwyr o gymuned Trelái ddydd Gwener.
Bu farw Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái yng Nghaerdydd ychydig wedi 18:00 ddydd Llun.
Fe wnaeth eu marwolaethau arwain at sawl awr o derfysg ac anhrefn a bellach mae naw o bobl wedi eu harestio.
Cafodd gwylnos ei chynnal yn ddiweddarach nos Wener mewn teyrnged i'r bechgyn, gyda channoedd o bobl yn rhyddhau balwnau i'r awyr.
'Cydymdeimladau'
“Wythnos yma, mae dau deulu yn galaru am eu meibion ac mae pobol Trelái wedi profi trawma ar y cyd,” meddai Mark Drakeford.
“Mae fy nghydymdeimlad gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees.
“Heddiw, cyfarfu cynrychiolwyr o'r gymuned leol ac asiantaethau cyhoeddus yn Nhrelái, gan gynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
“Rydym wedi cytuno i noddi menter ar y cyd ar lawr gwlad i greu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái, er mwyn ymateb i anghenion hirdymor y preswylwyr. Bydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau i bobl Drelái.”
Roedd y Gweinidog Cyfiawnder Jane Hutt hefyd yn rhan o'r cyfarfod yn ogystal â'r AS dros Orllewin Caerdydd Kevin Brennan a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru Alun Michael.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a'r anhrefn a ddilynodd.
Mae'r Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu wedi lansio ymchwiliad i "unrhyw ryngweithio" rhwng Heddlu De Cymru a'r bechgyn ifanc cyn y gwrthdrawiad.