Newyddion S4C

Stadiwm y Cae Ras yn Wrecsam yn cael enw newydd

25/05/2023
Y Cae Ras / CPD Wrecsam.png

Mae stadiwm clwb pêl-droed Wrecsam, y Cae Ras, wedi cael noddwyr newydd. 

Cyhoeddodd y clwb mai STōK Cold Brew Coffee ydi noddwyr swyddogol newydd y stadiwm.

Mae'r cwmni yn arbenigo mewn coffi oer ac yn un o'r rhai sydd yn tyfu gyflymaf yn America. 

Mae hyn yn golygu y bydd y stadiwm bellach yn cael ei hadnabod fel Stadiwm STōK Cae Ras | STōK Racecourse. 

Dyma'r tro cyntaf yn hanes y stadiwm iddi gael noddwr, a bydd yn cael ei noddi yn swyddogol o 1 Gorffennaf. 

Dywedodd cyd-berchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney: "Roeddem ni eisiau noddwyr stadiwm a fyddai'n cydio yn egni Clwb Pêl-droed Wrecsam tra hefyd, fel y Gymraeg, yn brofiad wrth ddweud yr enw. Mae STōK Cold Brew Coffee yn berffaith ar ein cyfer."

Dywedodd Is-Lywydd cwmni diodydd Danone, Brittney Polka: "Fe gawsom ni ein swyno gan stori Wrecasm, y tîm, y cefnogwyr a'r gymuned - ac mae hi'n fraint i ni gael ein croesawu i deulu Wrecsam. Byddwn yn cefnogi'r Dreigiau Coch ac yn dweud iechyd da o bell!"

Cafodd Wrecsam eu dyrchafu i Adran Dau y tymor hwn wedi iddyn nhw ennill dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.