Newyddion S4C

Teyrngedau teuluoedd i ddau fachgen fu farw yn Nhrelái

Dwy ysgol yn rhoi teyrngedau i fechgyn fu farw yn Nhrelái

NS4C 25/05/2023

Mae dwy ysgol yn y brifddinas wedi rhoi teyrngedau i'r ddau fachgen fu farw yn Nhrelái nos Lun.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 mewn gwrthdrawiad tra'n gyrru beic trydan.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, fe ymgasglodd cannoedd o bobl yn yr ardal, cafodd ceir eu rhoi ar dân, a chafodd tân gwyllt a gwrthrychau eraill eu taflu at yr heddlu.   

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i'r hyn arweiniodd at y gwrthdrawiad am oddeutu 18:00 nos Lun.

Mae'r llu wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad.

Mewn teyrnged i Harvey Evans, dywedodd Ysgol Bryn y Deryn ei fod yn "aelod poblogaidd o gymuned ein hysgol.

"Roedd yn ddysgwr galluog. Roedd bob amser yn cyrraedd yr ysgol gyda gwên fawr ar ei wyneb a doethineb i'w rannu! Yr oedd yn fabolgampwr rhagorol ac wrth ei fodd yn cael dadl ar faterion yr oedd yn angerddol drostynt.

"Mae cymuned ein hysgol wedi'u llorio wrth golli'r dyn ifanc hwyliog, caredig hwn oedd yn canolbwyntio ar ei deulu."

 Ychwanegodd yr ysgol bod prosesau ar waith i gynnig cymorth a chefnogaeth i ddisgyblion.

Mewn datganiad, dywedodd Ysgol Greenhill: "Ni all geiriau ddisgrifio pa mor drist yw ein cymuned ysgol gyfan o glywed am golled drasig Kyrees Sullivan.

"Bydd yn cael ei gofio bob amser am ei ffraethineb cyflym a'i allu i wneud i'r rhai o'i gwmpas wenu. Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i deulu a phawb oedd yn agos ato."

Mewn diweddariad ddydd Iau, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod bellach wedi arestio naw o bobl ar ôl anhrefn nos Lun, gyda phump ohonynt wedi eu harestio fore Iau. 

Cafodd pedwar unigolyn, sydd yn 16, 17, 18 a 29 oed, eu harestio yn ardal Nhrelái ac fe gafodd un dyn 21 oed ei arestio yn Nhremorfa. 

Maent yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi terfysg. 

Daw hyn wedi i bedwar person gael eu harestio ar noson yr anhrefn, gyda dau fachgen 15 oed ac un bachgen 16 oed o ardal Trelái yn cael eu harestio yn ogystal â merch 16 oed o'r Rhath. 

Maent bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.