Y nifer sy'n mudo i'r DU yn cyrraedd y ffigwr uchaf erioed

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer y bobl sydd wedi mudo i'r DU wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed y llynedd.
Mae ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y ffigwr net yn gynnydd o'r 488,000 yn 2021.
Daw hyn wrth i bobl symud o wledydd tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i weithio yn y DU, i astudio ac am resymau dyngarol.
Mae'n debygol bod 1.2 miliwn o bobl wedi mudo i'r DU yn 2022 tra amcangyfrifir bod 557,000 wedi symud o'r DU yn yr un cyfnod.
Dywedodd Jay Lindop, cyfarwyddwr canolfan mudo rhyngwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod nifer o "ddigwyddiadau annisgwyl y byd yn 2022" yn ogystal â chodi cyfyngiadau'r pandemig Covid-19 yn arwain at y lefel uchaf erioed o fudo net i'r DU.
Ychwanegodd: “Prif resymau y cynnydd oedd pobl yn dod i’r DU o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer gwaith, astudio ac at ddibenion dyngarol, gan gynnwys y rhai a oedd yn cyrraedd o’r Wcráin a Hong Kong.
“Wrth i gyfyngiadau'r cyfnod clo gael eu codi yn 2021, roeddym wedi gweld cynnydd sydyn mewn myfyrwyr yn cyrraedd.
"Mae data diweddar yn awgrymu bod y rhai sy’n cyrraedd yn 2021 bellach yn gadael y wlad, gyda’r gyfran gyffredinol o fewnfudo o tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer myfyrwyr yn gostwng yn 2022."
Llun: Matt Moloney