Newyddion S4C

Cwsmeriaid Dŵr Cymru’n derbyn ad-daliad o £10 wrth i Ofwat lansio ymchwiliad

25/05/2023
S4C

Bydd pob un o gwsmeriaid Dŵr Cymrun derbyn ad-daliad o £10 wrth i’r rheoleiddiwr Ofwat lansio ymchwiliad i’r cwmni.

Mae ymchwiliad yr awdurdod rheoleiddio gwasanaethau dŵr yn ymwneud â chywirdeb gwybodaeth a adroddwyd gan y cwmni am ei berfformiad ar ollyngiadau.

Daw’r ymchwiliad wedi i Dŵr Cymru ddarganfod nad oedd ei ffigyrau ar ollyngiadau dŵr a defnydd fesul pen yn cydymffurfio â gofynion Ofwat.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw'n "siomedig" a'u bod nhw eu hunain wedi codi’r pryderon ar y mater gydag Ofwat.

Mae Ofwat yn gosod targedau perfformiad ar gyfer cwmnïau ar ollyngiadau. Mae cwmnïau yn cael eu hasesu yn erbyn y targedau hyn yn flynyddol ac yn  cael eu cosbi neu eu gwobrwyo, yn dibynnu ar eu perfformiad.

Dywedodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru: “Mae’n ddrwg iawn gennym ni ac rydyn ni’n siomedig fod hyn wedi digwydd.

“Byddwn ni’n buddsoddi £54m ychwanegol dros y 2 flynedd nesaf i ganfod gollyngiadau a’u lleihau cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni wedi rhannu canfyddiadau ein hymchwiliadau â’n rheoleiddiwr.

“Er taw ein proses sicrwydd gadarn ni a ganfu’r broblem, roedd yna ddiffygion yn ein prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a ganiataodd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf.

“Rydyn ni wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol o ran ein dulliau o adrodd ar ollyngiadau, ac wedi cau’r bylchau yn ein prosesau adrodd a llywodraethu.”

Ni chaiff unrhyw sylw pellach ei wneud ar y mater, meddai Dŵr Cymru, nes bod Ofwat wedi cwblhau eu ymchwiliad, medden nhw.

Dywedodd y gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders AS bod yr ymchwiliad yn peri gofid.

“Er ei fod yn peri gofid, mae'r ymchwiliad gan Ofwat i Dŵr Cymru yn cael ei groesawu ar ôl i Dŵr Cymru fethu ag adrodd yn gywir ar ollyngiadau ar draws ei rwydwaith, a oedd yn llawer uwch nag a gofnodwyd yn wreiddiol."

Ymchwiliad

Dywedodd David Black, Prif Swyddog Gweithredol Ofwat: "Rydym wedi ymrwymo i ddwyn cwmnïau i gyfrif am berfformiad ac am rannu data amserol, cywir a chyflawn gyda ni a'u cwsmeriaid. 

“Rydym yn cydnabod bod Dŵr Cymru wedi dod atom pan ddaeth yn ymwybodol o'r mater gyda chywirdeb perfformiad.

“Bydd ymchwiliad Ofwat yn ystyried ffigurau perfformiad Dŵr Cymru, yr amgylchiadau a arweiniodd at y cwmni’n adrodd am berfformiad anghywir, a pha gamau y mae wedi’u cymryd neu’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r methiannau hyn.”

Bydd Ofwat yn ystyried unrhyw gynlluniau adfer fel rhan o'i ymchwiliad, a'i benderfyniad ar unrhyw gamau pellach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.