Newyddion S4C

Epilepsi: 'Pobl yn ofni helpu oherwydd diffyg dealltwriaeth'

25/05/2023
Epilepsy

Mae merch ifanc o Gaernarfon sy’n byw gydag epilepsi yn galw ar bobl i ddod i adnabod y cyflwr yn well.

Fe gafodd Katie Bohana-Davies ddiagnosis o epilepsi yn 2009 pan yn wyth oed wedi iddi fod yn sâl gyda feirws ar yr ymennydd.

Yn 23 oed bellach, mae hi’n teimlo bod diffyg dealltwriaeth yn arwain at bobl yn ofni helpu pan bod angen.

“Dwi isio pobl bod yn aware am y fo rili a gwybod be ydi o,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Rhan fwyaf o’r amser mae’n codi ofn ar bobl pan maen nhw'n gweld rhywun yn cael seazure, ond mae angen iddyn nhw reassureio y person sy’n cael seizure.

"Dydi bod ofn y cyflwr ddim yn help.”

Image
newyddion
Fe gafodd Katie Bohana-Davies ddiagnosis o epilepsi yn 2009 pan yn wyth oed.

Mae epilepsi yn gyflwr sy'n effeithio ar tua 630,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig.  

Yn ôl yr elusen Epilepsy Action, mae’r stigma sy’n gysylltiedig ag epilepsi a'r posibilrwydd o ddioddef yn gyhoeddus yn achosi i bobl deimlo’n ynysig, gyda dros 50% yn dweud eu bod wedi osgoi mannau cyhoeddus oherwydd ofn i epilepsi daro.

Mae Ms Bohana-Davies wedi bod yn agored am yr epilepsi gyda’i ffrindiau agosaf ers yn blentyn.

“Dwi’n lwcus mewn un ffordd bo' nhw wedi digwydd tra dwi efo teulu neu ffrindiau," meddai.

“Ma’ ffrindiau fi yn gwybod be i neud os ydy o yn digwydd. Es i allan am fwyd efo ffrindiau ar fy mhenblwyddyn yn 18 oed a ges i seizure adeg yna, nath o nhw ffonio rhieni fi yn syth a oedd rhaid fi fynd i’r ysbyty y tro yna.

“Dwi'n meddwl bod angen mwy o ymwybyddiaeth am y cyflwr ac mae pobl angen siarad am danna fo lot mwy.”

'Constantly ar gefn meddwl fi'

Fe gafodd Katie ei tharo'n wael gydag epilepsi y tro diwethaf bum mis yn ôl, ac nid yw hi’n gwybod pryd bydd yn ei tharo nesaf.

“Mae epilepsi constantly ar gefn meddwl fi, dwi jyst ddim yn gwybod be i ddisgwyl byth,” meddai.

“Dwi ddim yn gwybod pryd gai'r seizure nesaf. Ac mae o yn fwy na jyst seizure, mae o yn effeithio meddwl fi, mae o yn cael effaith arnaf fi.

“Ma’ seizures yn wahanol, ond ar ôl dod allan o un, dwi'n mynd yn confused ac mae o yn cymryd amser i fi ddod at fy hun.”

Cyfarwyddiadau

Mae’r wythnos hon yn wythnos codi ymwybyddiaeth epilepsi ac mae Epilepsy Action wedi lansio cyfarwyddiadau i’w dilyn pan ddaw’n fater o ofalu am rywun sy’n dioddef yn gyhoeddus:

- Gosod y pen ar rywbeth meddal i'w hamddiffyn rhag anaf.

- Dechrau amseru'r cyfnod, a chlirio'r yr ardal o unrhyw beth a allai fod yn niweidiol. Mae modd hefyd gwirio a oes gan y person ID meddygol neu freichled gyda mwy o wybodaeth am sut i'w helpu.

- Ar ôl i'r cyfnod ddod i ben, rhowch y person yn y safle adfer a thawelu meddwl y person.

 - Ffoniwch 999 os yw’r person yn dioddef am fwy na pum munud, yn dioddef yn fuan eto, yn cael trafferth anadlu ar ôl i'r trawiad ddod i ben neu erioed wedi cael trawiad o'r blaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.