Jonny Clayton a Gerwyn Price yn brwydro ei gilydd i gipio tlws Uwch Gynghrair y Dartiau

Bydd Jonny Clayton a Gerwyn Price yn dod wyneb yn wyneb yn Uwch Gynghrair y Dartiau yn Llundain nos Iau.
Bydd y ddau Gymro yn chwarae ei gilydd am le yn y rownd derfynol.
Michael Smith neu Michael van Gerwen fydd yn aros am Price neu Clayton yn y rownd derfynol yn yr O2 Arena yn ddiweddarch yr un noson.
Enillodd Jonny Clayton yr Uwch Gynghrair yn 2021, ac mae'r gŵr o Bontyberem yn chwarae'n dda ar hyn o bryd, wedi iddo ennill Pencampwriaeth y Chwaraewyr ar 20 Mai.
Ond mae Gerwyn Price hefyd wedi mwynhau llwyddiant yn ddiweddar, wedi iddo orffen ar frig y gynghrair.
Yn y pum gêm ddiwethaf rhwng Clayton a Price, Price sydd wedi bod yn fuddugol bob tro, gan ennill y tair ddiwethaf 6-4.
Bydd enillydd yr Uwch Gynghrair yn ennill £275,000 ac yn hawlio un o dlysau mwyaf adnabyddus y gamp.